Darllen: Video playlist

Part ofCymraegDarllen

Now playing video 11 of 20

Bethan Gwanas

Description

Bethan Gwanas yn ymateb i gwestiwn ar lyfrau a nofelau ar raglen ‘Pawb a’i Farn’. Mae’n dweud bod diffyg parch tuag at awduron rhyddiaith o’i gymharu â beirdd.

Classroom Ideas

Mae’r clip byr hwn yn gyfle i gyflwyno’r awdures doreithiog a phoblogaidd Bethan Gwanas ac i annog disgyblion i ddarllen ei nofelau hi. Gall hefyd fod yn sbardun i drafodaeth ar nodweddion nofel dda. Beth yw cynhwysion nofel ddiddorol? Pwy yw eu hoff awdur? A yw nofelau Cymraeg yn ddiflas? Gellir annog y disgyblion i greu braslun o nofel newydd yr hoffen nhw ei chreu. Wedi’r gwaith trafod a chynllunio gall pob unigolyn fod yn gyfrifol am ysgrifennu pennod cyn i griw ddod at ei gilydd i’w golygu, ei hargraffu a’i gwerthu yn yr ysgol. Gall hyn fod yn waith prosiect heriol a diddorol.