Darllen: Video playlist

Part ofCymraegDarllen

Now playing video 18 of 20

Bryn Terfel Ifanc yn y Coleg

Description

Bryn Terfel ifanc, yn fyfyriwr mewn gwers ganu yng Ngholeg Cerdd y Guildhall, Llundain. Mae Hywel Gwynfryn yn holi Bryn am y profiad o symud o Bantglas yn y wlad i Lundain.

Classroom Ideas

Wrth wylio’r clip hwn gall disgyblion restri manteision ac anfanteision byw mewn dinas. Gall hyn arwain at dasg lafar neu ysgrifenedig yn mynegi barn a safbwynt am fyw yn y wlad neu’r dref. Hefyd, gellir cael y disgyblion i ysgrifennu portread ffeithiol o’i harwr. Mae’r clip yn cynnig cyfle hefyd i arsylwi ar sgiliau cyfweld. Gall arwain at y disgyblion yn cyfweld ei gilydd mewn parau.