Gweithredu uniongyrchol anghyfreithlon yng Nghymru
Bomio’r arwisgiad

Rhoddwyd teitl Tywysog Cymru i’r Tywysog Siarl mewn arwisgiadSeremoni lle rhoddir teitl ar rywun yn swyddogol. ffurfiol ar 1 Gorffennaf 1969 yng Nghastell Caernarfon. Roedd cefnogwyr iau Plaid CymruPlaid wleidyddol yng Nghymru. a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwrthwynebu’r arwisgiad yma yn gryf. Derbyniodd Tywysog Siarl fygythiadau gan grwpiau o wladgarwyr Cymreig.
Ceisiodd aelodau o sefydliad cyfrinachol o’r enw Mudiad Amddiffyn Cymru osod bomiau er mwyn ffrwydro’r rheilffordd a ddefnyddiwyd gan y trên brenhinol. Fodd bynnag, ffrwydrodd y bom wrth i’r bomwyr ei gludo at y rheilffordd, gan ladd dau o’r cynllwynwyr. Gadawyd ffrwydrad arall yn Abergele, ac fe ffrwydrodd rai dyddiau’n ddiweddarach, gan anafu plentyn.
Tryweryn
Roedd grwpiau o wladgarwyr hefyd yn gwrthwynebu boddi cwm Tryweryn er mwyn sefydlu cronfa ddŵr ar gyfer dinas Lerpwl yn Lloegr. Pentref Capel Celyn oedd un o’r mannau a foddwyd. Roedd y pentref hwn yn bentref cwbl Gymraeg ac yn gymuned naturiol Gymraeg.
Roedd gwladgarwyr megis Mudiad Amddiffyn Cymru yn pwysleisio bod boddi’r cwm yn ymosodiad ar yr iaith Gymraeg a’r traddodiadau Cymreig. Gosodwyd bomiau i greu trafferthion, ac ymosododd grwpiau ar eiddo’r llywodraeth.
Meibion Glyndŵr
Yn ystod y 1980au a’r 1990au, llosgwyd eiddo yng Nghymru gan aelodau Meibion Glyndŵr. Ymosodwyd ar 228 o adeiladau rhwng 1979 a 1991.
Ni chafodd neb ei ladd na’i anafu oherwydd sicrhawyd bod yr holl eiddo yn wag cyn ymosod arnynt. Siôn Aubrey Roberts oedd yr unig berson i gael ei ganfod yn euog yr adeg honno. Fe’i dedfrydwyd i 12 mlynedd o garchar yn 1993 am anfon dyfeisiau ffrwydrol yn y post at yr heddlu a swyddogion y llywodraeth.