Anhrefn diwydiannol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol
Yn y 19eg ganrif roedd yna gynnydd mewn protestiadau ac anrhefn. Roedd yna amryw o achosion a chymhellion y tu ôl i’r anrhefn a’r protestiadau yma.
Roedd rhai yn canolbwyntio ar gael hawliau gwleidyddol, roedd eraill yn ymateb i’r newidiadau enfawr a ddaeth o ganlyniad i’r Chwyldro Diwydiannol ac Amaethyddol.
Roedd nifer o’r enghreifftiau yma o anrhefn yn achos pryder mawr i’r llywodraeth. Ar draws Ewrop roedd chwyldroadau yn bygwth y dosbarthiadau llywodraethol elît. Gwelodd llywodraeth Prydain y trais a ddilynodd y chwyldro yn Ffrainc yn 1789 ac roedden nhw'n benderfynol o chwalu unrhyw fath o brotest neu anrhefn.
Ludiaid

Roedd peiriannau newydd yn cael eu defnyddio mewn melinau tecstilau. Roedd y peiriannau yn cynhyrchu brethyn yn gyflym ac yn rhatach o lawer nag y gallai gwehyddion ei wneud yn eu cartrefi eu hunain.
Yn 1811 fe wnaeth gangiau o wehyddion falurio hyd at 1,000 o beiriannau newydd yn Nottingham a Swydd Derby. Rhwng 1812 ac 1813 roedd grwpiau tebyg yn dechrau malu peiriannau ffatrïoedd yn Swydd Efrog a Swydd Gaerhirfryn. Roedden nhw'n ymosod yn ystod y nos.
Methiant fu protestiadau’r Ludiaid. Anfonodd y llywodraeth milwyr, a fu'n ymladd â drylliau ger Huddersfield ym mis Mehefin 1812 yn erbyn y Ludiaid. Yn 1813 crogwyd 14 o Ludiaid. Diflannodd y mudiad erbyn 1813.
Siartwyr
Yn 1838, bu cyfarfod yn Birmingham i lunio rhestr o chwe newid arfaethedig i’r system bleidleisio. Roedd y cynigion yn cynnwys pleidleisiau i bob dyn dros 21 oed, pleidlais gudd, etholiadau blynyddol, ffiniau etholaethau cyfartal, a thâl i Aelodau Seneddol.
Galwyd hynny yn Siarter y Bobl a galwyd y bobl oedd yn cefnogi’r galwadau yn Siartwyr.
Bu Siartwyr yn llunio deiseb er mwyn dangos y gefnogaeth i’w newidiadau. Cafodd ei chyflwyno ddwy waith i’r Senedd, ond fe’i gwrthodwyd bob tro.

Trodd y mudiad yn dreisgar. Yn Llanidloes, Powys ym mis Ebrill 1839, trodd protest heddychlon gan wehyddion yn dreisgar pan arestiwyd tri o’r arweinwyr. Bu i’r fintai flin dorri i mewn i westy lleol a rhyddhau’r arweinwyr ac ennill rheolaeth ar y dref. Ar ôl pum diwrnod, anfonwyd y fyddin i mewn a chosbwyd 33 o Siartwyr.
Yng Nghasnewydd yn 1839, daeth 3,000 o weithwyr dur a glowyr at ei gilydd i ddangos eu cefnogaeth i’r Siartwyr. Taniodd y milwyr eu gynnau a lladdwyd 20 o Siartwyr. Carcharwyd 500 o Siartwyr a dedfrydwyd yr arweinwyr i farwolaeth yng Nghasnewydd, ond fe’u halltudiwyd i Awstralia.
Daeth Siartiaeth i ben yn dilyn un ymgais olaf aflwyddiannus i gyflwyno deiseb i’r Senedd yn 1848.
Gwrthryfel Merthyr

O 1-7 Mehefin 1831, bu gwrthryfelGwrthryfel yn erbyn y llywodraeth neu awdurdod. arfog ym Merthyr Tudful. Prif resymau'r gwrthryfel oedd diweithdra, cyflogau isel a meddiannu eiddo.
Cododd rhwng 7,000 a 10,000 o wrthryfelwyr faner goch gwrthryfel a meddiannu’r rhan fwyaf o Ferthyr Tudful. Bu gwrthdaro treisgar ac anfonodd y llywodraeth filwyr yno i adennill rheolaeth. Methodd yr awdurdodau adennill rheolaeth o'r dref tan 7 Mehefin.
Cafodd 26 o bobl eu treialu, alltudiwyd nifer ohonynt, ond dim ond un, Dic Penderyn a ddienyddiwyd.
Scotch Cattle
Grŵp oedd yn gweithredu mewn ardaloedd diwydiannol oedd y Scotch Cattle yn gynnar yn y 19eg ganrif. Roedd gangiau yn cosbi’r rhai oedd wedi gweithio yn ystod streic. Bydden nhw'n gwisgo cuddwisg ac yn ymweld â chartrefi’r blackleggerPerson sy’n gweithio yn lle rhywun sydd ar streic. neu’r rheini oedd yn gweithio yn ystod streic.
Byddai’r Scotch Cattle yn gwisgo cuddwisg ac yn ymweld â chartrefi pobl. Bydden nhw’n chwythu cyrn ac yn ysgwyd cadwyni, ac yna’n malu drysau ac yn malu dodrefn yn y tŷ. Petai pobl yn ceisio eu rhwystro, bydden nhw’n cael eu curo.