Natur troseddauCrwydraeth, heresi a theyrnfradwriaeth: 1500au

Mae rhai troseddau wedi bodoli erioed ac mae eraill yn perthyn i gyfnodau penodol mewn hanes. Sut mae natur gweithgaredd troseddol wedi bod yn wahanol ac wedi newid dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Crwydraeth, heresi a theyrnfradwriaeth yn yr 16eg ganrif

Crwydraeth

Roedd yn bryder mawr i’r frenhiniaeth a’r llywodraeth yn ystod y 16g ganrif. Byddai pobl ddigartref a di-waith yn crwydro o gwmpas y wlad, ac yna aml roedden nhw'n cael eu galw’n grwydriaid.

Roedd crwydriaid yn gymysgedd o gynfilwyr, gweithwyr fferm di-waith, menywod, plant, hen bobl a phobl sâl. Roedd rhai o’r crwydriaid yn iach ac yn gallu gweithio, ond a benderfynodd bod bywyd o droseddu yn haws. Yn aml roedd y bobl yma’n cael eu galw’n gardotwyr holliach.

Roedd rhai cardotwyr holliach yn defnyddio twyll a thriciau er mwyn dwyn oddi ar bobl, neu er mwyn i bobl deimlo tosturi drostynt.

Cardotwyr holliachTwyll/tric
Tom O’BedlamRoedd yn cymryd arno ei fod yn wallgof ac yn dilyn pobl o gwmpas nes eu bod yn rhoi arian iddo.
Y ‘Cranc Ffug’Roedd yn ffugio ei fod yn cael ffitiau eithafol ac yn sugno ar sebon fel bod swigod yn dod o’i geg.
Y ‘Castiwr Bronnoeth’Byddai cardotwyr benywaidd yn dangos eu bronnau i ddynion ar y stryd ac yn eu twyllo i fynd gyda nhw i dŷ. Yn y tŷ byddai giang o ddynion yn disgwyl amdano er mwyn dwyn oddi arno.
Y ‘Clapperdudgeon’Roedd yn torri’r croen er mwyn gwaedu ac yn ei orchuddio â chadachau budr. Roedd rhai plant yn cael eu hanafu’n fwriadol gan eu rhieni er mwyn cael mwy o arian gan bobl oedd yn mynd heibio.
PysgotwrByddai’n cario ffon bren hir ac yn cnocio ar ddrysau pobl yn ystod y dydd er mwyn gweld beth gallai ddwyn. Ar ôl iddi nosi, byddai’n dychwelyd gyda bachyn ar ddiwedd ei ffon. Roedd yn dwyn eitemau drwy ffenestri er mwyn gallu eu gwerthu.
Cardotwyr holliachTom O’Bedlam
Twyll/tricRoedd yn cymryd arno ei fod yn wallgof ac yn dilyn pobl o gwmpas nes eu bod yn rhoi arian iddo.
Cardotwyr holliachY ‘Cranc Ffug’
Twyll/tricRoedd yn ffugio ei fod yn cael ffitiau eithafol ac yn sugno ar sebon fel bod swigod yn dod o’i geg.
Cardotwyr holliachY ‘Castiwr Bronnoeth’
Twyll/tricByddai cardotwyr benywaidd yn dangos eu bronnau i ddynion ar y stryd ac yn eu twyllo i fynd gyda nhw i dŷ. Yn y tŷ byddai giang o ddynion yn disgwyl amdano er mwyn dwyn oddi arno.
Cardotwyr holliachY ‘Clapperdudgeon’
Twyll/tricRoedd yn torri’r croen er mwyn gwaedu ac yn ei orchuddio â chadachau budr. Roedd rhai plant yn cael eu hanafu’n fwriadol gan eu rhieni er mwyn cael mwy o arian gan bobl oedd yn mynd heibio.
Cardotwyr holliachPysgotwr
Twyll/tricByddai’n cario ffon bren hir ac yn cnocio ar ddrysau pobl yn ystod y dydd er mwyn gweld beth gallai ddwyn. Ar ôl iddi nosi, byddai’n dychwelyd gyda bachyn ar ddiwedd ei ffon. Roedd yn dwyn eitemau drwy ffenestri er mwyn gallu eu gwerthu.

Roedd bod yn grwydryn yn drosedd yn oes y Tuduriaid. Roedd yr awdurdodau yn credu y dylid cosbi pobl nad oedd yn gweithio am eu bod yn ddiog.

Deddf Crwydraeth 1547

Roedd Deddf Crwydraeth yn nodi y dylai unrhyw berson abl nad oedd wedi gweithio gael ei warthnodi â V a’i werthu i gaethwasiaeth am ddwy flynedd.

Roedd plant oedd yn grwydriaid yn cael eu gorfodi i weithio. Roedd deddfau eraill yn dweud y dylid chwipio crwydriaid a’u hanfon yn ôl i’w man geni.

Dros amser fe ddechreuodd yr awdurdodau wahaniaethu rhwng y crwydriaid abl, y parhawyd i’w trin fel troseddwyr, a’r tlodion ‘anhaeddiannol’ neu ‘haeddiannol’, y rhoddwyd gwaith iddynt neu a anfonwyd i .

Heresi a theyrnfradwriaeth

Nid yw yn drosedd erbyn hyn ym Mhrydain, ond roedd yn drosedd ddifrifol iawn yn oes y Tuduriaid. Yn aml roedd heresi yn cael ei gysylltu â , oherwydd bod gwrthod dilyn crefydd y wladwriaeth yn drosedd yn erbyn y wladwriaeth ac yn drosedd grefyddol.

Roedd y diffiniad o heresi yn wahanol yn ystod pob teyrnasiad, yn ddibynnol ar y deddfau a basiwyd mewn perthynas â chrefydd. Cafwyd 280 o bobl eu llosgi am heresi yn ystod teyrnasiad Mari I. O dan Elisabeth I roedd parhau â thraddodiadau Catholig yn heresi, ond roedd yn well gan Elisabeth ddedfrydu pobl am deyrnfradwriaeth na heresi.

Y gosb am heresi oedd llosgi i farwolaeth, neu dorri pennau yn achos menywod a bonheddwyr. Y gosb am deyrnfradwriaeth oedd crogi, diberfeddu a phedrannu. yw'r enw ar hwn.

Cytunodd yr Archesgob Cranmer i ei gredoau Protestannaidd, ond penderfynodd Mari ei ddienyddio beth bynnag. Wrth iddo gael ei losgi, fe ddaliodd allan ei law a ddefnyddiodd i lofnodi’r datgyffesiad.

Roedd Latimer a Ridley yn Esgobion Protestannaidd a helpodd Edrward VI i droi’r wlad yn Brotestannaidd. Cafodd y ddau eu dienyddio gan Mari I am heresi ar 6 Hydref 1555.

Llun o dorf wedi ymgasglu o gwmpas dau ddyn sy’n cael eu llosgi wrth y stanc.
Image caption,
Dienyddio Latimer a Ridley

Rawlins White

Roedd Rawlins White yn bysgotwr Protestannaidd tlawd o Gaerdydd. Gwrthododd ddatgyffesu ei ffydd Brotestannaidd ar ôl i Mari I ddod yn frenhines. Carcharwyd White yng Nghas-gwent, ac yna yng Nghaerdydd ac fe’i llosgwyd i farwolaeth ar 30 Mawrth 1555 yng Nghaerdydd. Roedd yn un o ddau yn unig a losgwyd i farwolaeth gan Mari I yng Nghymru am heresi.

Richard Gwyn

Roedd Richard Gwyn yn athro Catholig a wrthododd droi at yr Eglwys Anglicanaidd, a gwrthododd fynychu gwasanaethau’r Eglwys Anglicanaidd. Cafodd ei garcharu, ei ddirwyo a’i roi mewn cyffion dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Ynghyd â dau Babydd arall, John Hughes a Robert Morris, canfuwyd Gwyn yn euog o deyrnfradwriaeth yn 1583 ac fe gafodd ei grogi, ei ddiberfeddu a’i bedrannu.

John Penry

Roedd John Penry yn bregethwr Piwritanaidd a ddefnyddiai wasg argraffu gyfrinachol i gyhoeddi deunydd a gondemniwyd gan yr Esgobion Anglicanaidd. Fe’i dienyddiwyd am deyrnfradwriaeth yn 1593.

Roedd nifer o’r cynllwynion Catholig yn erbyn Elisabeth I yn gysylltiedig â hawl cyfnither Elisabeth, Mari Brenhines yr Alban, i’r orsedd. Nid yw’n eglur faint a wyddai Mari ei hun am rai o’r cynllwynion. Ond, fe’i dienyddiwyd gan Elisabeth I yn 1587 ar ôl nifer o flynyddoedd yn y carchar.