Natur troseddauTrefoli a throseddu yn y 19eg ganrif

Mae rhai troseddau wedi bodoli erioed ac mae eraill yn perthyn i gyfnodau penodol mewn hanes. Sut mae natur gweithgaredd troseddol wedi bod yn wahanol ac wedi newid dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Troseddau’n gysylltiedig â threfoli yn y 19eg ganrif

Troseddau trefol

Darlun o nythle St Giles, Llundain yn 1850. Mae rhai pobl yn cerdded ar y stryd tra bod eraill yn gorwedd ar y llawr wrth ymyl mochyn a chath. Mae blancedi yn hongian o bolion yn y stryd
Figure caption,
Nythle St Giles, Llundain yn 1850. Wedi'i leoli rhwng Great Russell Street a Seven Dials, dyma oedd un o'r slymiau gwaethaf ym Mhrydain

Lladrata oedd fwyaf cyffredin yn y trefi a’r dinasoedd diwydiannol newydd. Roedd nifer o droseddau yn digwydd yn fwy rheolaidd mewn ardaloedd a elwid yn . Roedd ardaloedd megis 'China' ym Merthyr Tudful yn enghreifftiau o nythleoedd.

Mathau o ladrata trefol

Pigo pocedi oedd un o’r mathau o ladrata mwyaf cyffredin yn y dinasoedd diwydiannol. Nid oedd yn drosedd newydd, ond roedd maint y dinasoedd yn rhoi mwy o gyfleoedd i rai oedd yn pigo pocedi.

Roedden nhw'n gweithio ble bynnag yr oedd yna dyrfaoedd mawr. Roedd y tyrfaoedd mewn dienyddio cyhoeddus yn aml yn darged i rai oedd yn pigo pocedi. Bydden nhw'n dwyn pyrsiau neu hancesi poced. Roedd yr eitemau eraill oedd yn cael eu dwyn yn cynnwys watsys poced oddi ar eu cadwyni ar wasgodau a phinnau a thlysau oddi ar wisgoedd merched.

Rhoddwyd cyfleoedd i dwyllwyr yn dilyn datblygu’r rheilffyrdd. Roedden nhw'n twyllo buddsoddwyr ac yn gwneud deliau ariannol ffug mewn cwmnïau rheilffyrdd.

Puteindra

Nid oedd puteindra yn rhywbeth newydd. Ond yn y 19eg ganrif roedd yna fwy o bryder am ecsbloetio menywod ym mhuteindai Llundain. Nododd adroddiad gan Bwyllgor Dethol yn 1882 bod puteindra ar gynnydd yn Llundain a bod merched ifanc yn gynyddol yn cael eu denu at buteindra.

Llofruddiaeth a Jack the Ripper

Roedd y gyfradd lofruddiaeth yn llai na 400 y flwyddyn, a gostyngodd ymhellach ar ôl 1890. Nid oedd llofruddiaeth yn drosedd gyffredin, ond cynyddodd y diddordeb mewn llofruddiaeth yn ystod y 19eg ganrif. Roedd nifer o bobl yn dilyn treialon llofruddiaeth yn y papurau newydd ac yn ymweld â’r ‘chamber of horrors’ yn Madame Tussaud's ar Baker Street.

Yn ystod y 1850au a’r 1860au roedd yna gyfres o , a arweiniodd at banig ymysg y cyhoedd.

Yn ystod y 1880au achosodd Jack the Ripper ddiddordeb tywyll mewn llofruddiaeth hefyd. Roedd yn lladdwr cyfresol a laddodd ac a bump o ferched yn Nwyrain Llundain yn ystod y 1880au. Roedd yn lladd yn yr ardal o Lundain a elwir yn 'filltir sgwâr ddieflig' oedd yn cynnwys Whitechapel, Aldgate a Spitalfields. Roedd hon yn hofel o ardal, yn llawn mwg o ffatrïoedd a strydoedd ac aleon cul. Ni ddaliwyd Jack the Ripper, a hyd heddiw nid oes neb wedi cadarnhau pwy oedd.