Twf troseddu yn yr 20fed a’r 21ain ganrif
Cynyddodd y gyfradd troseddu yn sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif, yn arbennig ar ôl y 1960au. Mae nifer o droseddau newydd wedi cael eu creu oherwydd newidiadau chwim mewn technoleg, a newidiadau cymdeithasol ac economaidd.
Trosedd cerbydau
Mae llawer o droseddau yn gysylltiedig â cherbydau. Maen nhw'n cynnwys:
- gyrru’n beryglus a diofal
- troseddau parcio
- goryrru
- dwyn ceir
- goryrru
- gwefryrruDwyn car a gyrru o gwmpas yn gyflym ac afreolus.
- cipio ceir
- gyrru heb drwydded, yswiriant, treth car neu MOT
- methu â stopio ar ôl damwain a methu â adrodd damwain
- yfed a gyrru
- gwrthod rhoi prawf anadl
- peidio â gwisgo gwregys diogelwch
- defnyddio ffôn symudol wrth yrru
Trosedd technoleg
Mae trosedd seiber yn cyfeirio at drosedd neu weithgaredd anghyfreithlon ar y rhyngrwyd.
| Trosedd | Gweithgaredd |
| Hacio | Cael mynediad i ffeiliau a chronfeydd data pobl eraill neu sefydliadau heb ganiatâd. |
| Twyll | Dwyn oddi ar unigolyn, er enghraifft dwyn o’u cyfrif banc ar-lein, neu ddefnyddio manylion cerdyn credyd rhywun arall ar-lein. Yn aml mae twyll yn ymwneud â thwyll hunaniaeth - honni bod yn rhywun arall er mwyn cael mynediad i’w cyfrif banc a chardiau credyd. |
| Meddalwedd maleisus | Defnyddio firws cyfrifiadurol er mwyn dinistrio ffeiliau neu wybodaeth ar gyfrifiadur rhywun arall. Weithiau mae’r feddalwedd yn cael ei hanfon drwy sgiâm gwe-rwydo - defnyddio e-bostion ffug gyda dolenni i’r faleiswedd. |
| Trosedd | Hacio |
|---|---|
| Gweithgaredd | Cael mynediad i ffeiliau a chronfeydd data pobl eraill neu sefydliadau heb ganiatâd. |
| Trosedd | Twyll |
|---|---|
| Gweithgaredd | Dwyn oddi ar unigolyn, er enghraifft dwyn o’u cyfrif banc ar-lein, neu ddefnyddio manylion cerdyn credyd rhywun arall ar-lein. Yn aml mae twyll yn ymwneud â thwyll hunaniaeth - honni bod yn rhywun arall er mwyn cael mynediad i’w cyfrif banc a chardiau credyd. |
| Trosedd | Meddalwedd maleisus |
|---|---|
| Gweithgaredd | Defnyddio firws cyfrifiadurol er mwyn dinistrio ffeiliau neu wybodaeth ar gyfrifiadur rhywun arall. Weithiau mae’r feddalwedd yn cael ei hanfon drwy sgiâm gwe-rwydo - defnyddio e-bostion ffug gyda dolenni i’r faleiswedd. |
Mae cyfrifiaduron hefyd wedi galluogi ffyrdd newydd i droseddwyr gyflawni hen droseddau.
| Trosedd | Gweithgaredd |
| Troseddau rhyw | Mae’r rhyngrwyd yn cael ei defnyddio i gyfarfod â dioddefwyr a’u meithrin yn amhriodol. Mae’r rhyngrwyd hefyd wedi cael ei defnyddio i rannu delweddau anghyfreithlon o gamdriniaeth. |
| Seiberfwlio | Ymddygiad bygythiol a chamdriniol drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd. |
| Lladrad | Mae lladrata cyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar wedi cynyddu. |
| Trosedd | Troseddau rhyw |
|---|---|
| Gweithgaredd | Mae’r rhyngrwyd yn cael ei defnyddio i gyfarfod â dioddefwyr a’u meithrin yn amhriodol. Mae’r rhyngrwyd hefyd wedi cael ei defnyddio i rannu delweddau anghyfreithlon o gamdriniaeth. |
| Trosedd | Seiberfwlio |
|---|---|
| Gweithgaredd | Ymddygiad bygythiol a chamdriniol drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd. |
| Trosedd | Lladrad |
|---|---|
| Gweithgaredd | Mae lladrata cyfrifiaduron, gliniaduron, tabledi a ffonau clyfar wedi cynyddu. |
Troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau
Mae yna nifer o droseddau sy’n gysylltiedig â’r defnydd cynyddol o gyffuriau anghyfreithlon ym Mhrydain.
Smyglo cyffuriau i’r wlad. Weithiau mae hynny yn cael ei wneud drwy ddefnyddio ‘mulod’ cyffuriau. Cynhyrchu cyffuriau megis canabis sy’n cael eu tyfu mewn ‘ffermydd’. Mae cyffuriau eraill yn cael eu ‘torri’ â chynhyrchion eraill cyn eu gwerthu.
Mae gangiau cyffuriau yn dosbarthu cyffuriau, yn aml ar draws ardaloedd mawr o’r wlad. Mae meddu ar gyffuriau anghyfreithlon yn drosedd.
Troseddau treisgar
Mae troseddau treisgar yn tueddu i gael mwy o sylw mewn adroddiadau yn y cyfryngau, a chynyddodd hynny yn ystod diwedd yr 20fed ganrif. Mae’r troseddau yn cynnwys:
- Hwliganiaeth pêl-droed - cynyddodd hynny’n sylweddol ers y 1960au. Mae gangiau o gefnogwyr yn cynllunio i ymladd yn erbyn ei gilydd, neu i ymosod ar neu fandaleiddio eiddo yn y gorsafoedd lleol neu ar ffyrdd sy’n arwain at y stadiymau.
- Troseddau drylliau a chyllyll - mae saethu a thrywanu wedi digwydd, yn arbennig yn Llundain, ond mae’r troseddau yma yn brin.
- Anrhefn - digwyddodd nifer o derfysgoedd rhwng 6 a 11 Awst 2011 yn Llundain a dinasoedd eraill. Fe’u sbardunwyd wedi i’r heddlu saethu Mark Duggan yn farw yn Llundain. Ysbeiliwyd nifer o siopau a chafodd nifer o dannau eu cynnau yn ystod y terfysgoedd.

Terfysgaeth
IRA
O’r 1960au roedd yr IRA yn saethu a bomio yng Ngogledd Iwerddon. Roedden nhw'n gweithredu yn Belfast ac ar hyd y ffin rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. O'r 1970au lladdodd yr IRA newyddiadurwyr ac Aelodau Seneddol yn Lloegr hefyd.
Ym mis Hydref 1984, ceisiodd yr IRA fomio Cabinet a Phrif Weinidog y DU yn y Grand Hotel yn Brighton. Yn 1992 lansiodd yr IRA fomiau morter i Stryd Downing, ac yn 1996 fe wnaethon nhw fomio canolfan siopa Arndale ym Manceinion.
Al-Qaeda
Hawliodd celloedd terfysgol oedd yn gysylltiedig ag Al-Qaeda gyfrifoldeb am fomio Llundain ar 7 Gorffennaf 2005. Fe fomion nhw gorsafoedd tanddaearol a bws Llundain, gan ladd 52 o drigolion y DU ac anafu dros 700 o bobl.