Natur troseddauTwf lladrata pen ffordd yn y 18fed ganrif

Mae rhai troseddau wedi bodoli erioed ac mae eraill yn perthyn i gyfnodau penodol mewn hanes. Sut mae natur gweithgaredd troseddol wedi bod yn wahanol ac wedi newid dros amser?

Part ofHanesNewidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw

Twf lladrata pen ffordd yn y 18fed ganrif

Lleidr pen ffordd yn dal dyn am ei arian ar Ffordd y Brenin, tua 1883
Figure caption,
Lleidr pen ffordd yn dal dyn am ei arian ar Ffordd y Brenin, tua 1883

Roedd lladrata yn drosedd gyffredin yn y 18fed ganrif. Roedd yn digwydd yn aml ar y strydoedd a’r ffyrdd oedd yn arwain i Lundain.

Roedd lladron troed yn aml yn rhan o gang. Roedden nhw'n lladrata oddi ar bobl oedd yn teithio ar droed a gallan nhw fod yn dreisgar iawn.

Roedd lladron pen ffordd yn lladron ar gefn ceffylau ac fel arfer roedden nhw'n gweithio ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau bach. Roedden nhw'n ymosod ar deithwyr mewn cerbydau neu ar gefn ceffyl.

Cynyddodd nifer y lladron pen ffordd ar ddechrau’r 18fed ganrif. Roedd lladron pen ffordd yn targedu’r goets fawr, cerbydau, ffermwyr yn dychwelyd o’r farchnad a’r cerbydau post. Yn aml roedd lladron pen ffordd wedi’u harfogi â drylliau ac yn gwisgo mygydau. Maen nhw'n enwog am eu hymadrodd Stand and deliver. Fel arfer nid oedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio grym, oherwydd roedd defnyddio dryll i ofyn am nwyddau gwerthfawr yn ddigon i achosi i bobl roi’r nwyddau i’r lladron.

Yn aml mae lladron pen ffordd yn cael eu mawrygu mewn llyfrau, cerddi a ffilmiau. Roedd rhai lladron pen ffordd yn sicr yn gwrtais tuag at eu dioddefwyr, ac fe gredwyd yn gyffredinol bryd hynny bod lladron pen ffordd yn ceisio sicrhau nad oedden nhw'n dwyn oddi ar bobl dlawd. Ond, roedd lladron pen ffordd yn gallu bod yn dreisgar hefyd. Roedd un lleidr pen ffordd yn torri tafodau ei ddioddefwyr fel nad oedden nhw'n gallu rhoi disgrifiad ohono i’r Ustusiaid Heddwch.

Dick Turpin

Y lleidr pen ffordd enwocaf yn Lloegr oedd Dick Turpin. Cyn iddo droi at ladrata pen ffordd, roedd yn gigydd, a ymunodd â gang o ladron. Roedd yn dwyn gwartheg, yn dwyn o dai ac yn dwyn arian oddi ar bobl.

Yn ddiweddarach trodd at ladrata pen ffordd yn Swydd Lincoln gyda’i bartner Tom King. Ar ôl iddo saethu ei bartner, dihangodd i Swydd Efrog a newidiodd ei enw. Yn 1739 fe’i daliwyd ac fe’i carcharwyd am ddwyn ceffylau yn Efrog.

Tra’r oedd yn y carchar ysgrifennodd at ei frawd. Fe wnaeth hen athro iddo adnabod ei lawysgrifen ac fe hysbysodd yr Ustusiaid lleol bod Dick Turpin yn y ddalfa. Fe’i crogwyd yn Efrog yn 1739.

Roedd Dick Turpin yn cael ei fawrygu’n eang. Mae cerdd a ysgrifennwyd 100 mlynedd ar ôl ei farwolaeth yn adrodd am Turpin yn marchogaeth ei geffyl, Black Bess, o Lundain i Efrog yn yr amser cyflymaf erioed er mwyn sicrhau alibi iddo’i hun mewn perthynas â throsedd a gyflawnodd. Yn ddiweddarach trowyd y gerdd yn sioe gerdd ac yn llyfrau comig.

Lladron pen ffordd eraill

Roedd John Rann yn lleidr pen ffordd a arestiwyd chwe gwaith am ladrata pen ffordd ond na chafodd ei ganfod yn euog. Ond yn 1774 fe wnaeth ddwyn oddi ar Gaplan ac fe'i crogwyd.

Roedd Twm Siôn Cati (Thomas Jones) yn Gymro o leidr pen ffordd yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif. Mae’n cael ei adnabod fel Robin Hood Cymru, ac yn ôl y sôn roedd yn dwyn oddi ar y cyfoethog ac yn rhoi i’r tlawd yng Ngheredigion. Ond mae’n debygol na dderbyniodd y tlawd lawer o’r hyn yr oedd yn ei ddwyn.

Diwedd lladrata pen ffordd

Dirywiodd ar ddiwedd y 18fed ganrif yn bennaf oherwydd:

  • roedd Patrôl Ceffylau Bow Street yn targedu lladron pen ffordd yn benodol ar ôl 1763
  • roedd Ustusiaid Heddwch yn gwrthod trwyddedu gwestai a thafarndai oedd yn rhoi lloches i ladron pen ffordd
  • roedd trefoli parhaus yn golygu bod yna lai o ffyrdd anghysbell
  • datblygwyd bancio ac roedd pobl yn dechrau cario llai o arian