Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun JonesY cymeriadau

Mae'r nofel hon yn trafod themâu megis rhagrith a gwrthdaro. Mae Meredydd Parri wedi ei gael yn ddieuog o dreisio a Richard Jones ar drywydd y diemwntau wnaeth eu dwyn bum mlynedd yn ôl.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Y cymeriadau

Sut bobl ydyn nhw?

Fedri di ychwanegu ffeithiau amdanyn nhw?

Meredydd Parri, 25 oed

  • Teimladwy – poeni am farn pobl eraill. Yn ôl Now, un o’r goreuon … wnâi o fyth frifo neb.
  • Hoffus a phoblogaidd.
  • Hunandosturiol – cael ei frifo am fod cant o blismyn yn chwilio am gorff Richard Jones ond buan y rhoddodd y plismyn y gorau i chwilio am ei dad.
  • Cryf a dewr – penderfynol o wynebu pobl y pentref er ei fod yn gwybod bod rhai yn ei erbyn. Sefyll ei dir pan ddaeth wyneb yn wyneb â Huw a gwrthod dweud pwy ymosododd arno. Yn y llys, Nid oedd wedi osgoi edrych ar neb … wedi siarad yn dawel a di-lol heb osgoi unrhyw gwestiwn.
  • Ffraeth a chraff – dywed y byddai gan Gladys berisgop yn ei harch a’i bod yn, hen grimpan o ddynas gegog a busneslyd.

Richard Jones, tua 40 oed

  • Clyfar a chyfrwys – meddai’r Arolygydd, Mae dyn sy’n dwyn gwerth pum mil ar hugain o sdwff … yn ddyn clyfar, clyfar iawn. Yn rhy glyfar i gael ei ddyrnu. Meddai Einir, Hen ddyn rhyfadd ydy o. Mae na rywbeth oer yn chwara i fyny ac i lawr asgwrn y nghefn i bob tro mae o’n agos.
  • Cynlluniwr gofalus – wrth gladdu’r gemau, Gorffennodd y gwaith gyda’r un gofal a thrylwyredd ag a ddangosodd drwyddi draw.
  • Hunanol, creulon a chaled – Twyllodd Harri Evans i gymryd rhan mewn gweithred dreisgar a gadawodd ef heb ddim. Does ganddo ddim cydymdeimlad ag e pan mae’n marw.

Gladys, Drofa Ganol

  • Siaradus a beirniadol o bawb, ...siarad, wnaiff honno...siarad a siarad a siarad nes stopith y dywarchan hi. Dywed bod mab Gareth Huws yn, hen ddiawl bach drwg a Meredydd yn hen lipryn, llarpad ac anghenfil hyll.
  • Cwynfanllyd ac amhoblogaidd – mynd at Gareth Hughes i gwyno, Deuai cwyn bron yn fisol am rywbeth neu’i gilydd… Hen gnawas flin, meddai mab y plismon.

Einir, 22 oed

  • Hwyliog a gonest – pryfocia Meredydd trwy ddweud mai Veronica Maud ydy ei henw ac mae’n ffraeth, Mi ferwa i ŵy wedi ffrio i ti. Cyfaddefa ei bod wedi holi merched y gegin yn yr Erddig am Meredydd.
  • Annwyl a chyfeillgar – Mae agosatrwydd yn ei llais ac wedi i Meredydd ddweud hanes ei rieni yn boddi mae’n crio.

Teulu Gwastad Hir

  • Robin Hughes, y tad. Dyn call a thawel. Mae wedi’i siomi yn ei blant ac am i’r teulu wynebu’r gwir.
  • Bet, y fam. Mae’n credu celwydd Bethan.
  • Bethan, eu merch. Hen beth wirion …Tynnu ar ôl ei mam, meddai Now. Erbyn diwedd y nofel mae’n callio.
  • Huw, eu mab. Mae’n ymosod ar Meredydd. Bachgen gwyllt sy’n meddwl ei hun. Mae o’n mynd yn wirion bost yn ei ddiod ac mae o’n hen uffar slei, meddai Robin.

Pobl sy’n mynd i dafarn Yr Wylan Wen

  • Robin Williams, y tafarnwr. Dyn clên sy’n rhybuddio Meredydd bod Huw yn mynd i ymosod arno.
  • Now Tan Ceris (Owen Jones). Ewythr i Richard Jones. Mae’n byw yn Nhan Ceris ac wedi gwerthu rhan o’r fferm i adeiladu stad Maes Ceris. Â i’r Wylan Wen am beint bob nos Iau.
  • Gwilym Siop Gig. Dyn tawel sydd byth am godi twrw.
  • Wil Garej (Wil Drofa Isaf). Ffrindiau pennaf tad Meredydd.
  • Dafydd Garej, mab Wil. Mae’n credu Meredydd ac yn ei groesawu’n ôl.
  • Wil Aberaron. Hen fistar Now Tan Ceris. Tipyn o dynnwr coes.
  • Gareth Hughes. Plismon y pentref. Mae’n boblogaidd ac yn cefnogi Meredydd.