Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun JonesThemâu

Mae'r nofel hon yn trafod themâu megis rhagrith a gwrthdaro. Mae Meredydd Parri wedi ei gael yn ddieuog o dreisio a Richard Jones ar drywydd y diemwntau wnaeth eu dwyn bum mlynedd yn ôl.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Themâu

Thema cariad

Wrth drafod y themâu cofia ddyfynnu a defnyddio tystiolaeth o’r nofel.

Trwy’r nofel mae perthynas Einir a Meredydd yn blodeuo. Mae’r naill yn gefn i’r llall wedi’r cyfnodau anodd maen nhw wedi bod trwyddynt – tor dyweddïad Einir a’r cyhuddiad yn erbyn Meredydd. O fewn pedair wythnos o gyfarfod yn Yr Erddig roedd Meredydd dros ei ben a’i glustiau mewn cariad. Einir ydy’r unig ferch y mae’n gallu rhannu popeth, pob teimlad, pob profiad â hi.

Mae’r nofel yn gorffen gyda Meredydd yn gofyn i Einir fynd i siop fodrwyau gydag ef.

Thema rhagrith

Mae llawer o’r cymeriadau’n rhagrithio, ee:

  • Mae’r Barnwr wedi diflasu yn y Llys ac eisiau mynd adref. Dywed Meredydd, Wnest ti ddim dadlau fy achos o gwbl, dim ond defnyddio dy glyfrwch cyfoglyd i ddangos dy hun i’r holl bobl yma. Nid ydy’r bargyfreithiwr yn credu bod Meredydd yn ddieuog er ei fod yn ei amddiffyn.
  • Nid ydy Harri Jôs, yn rhy gyfeillgar pan aiff Meredydd i’w siop ond erbyn i’w fil fod yn anferth, Ni fu neb erioed yn fwy dieuog.
  • Mynd i angladd Gladys o ran dyletswydd mae pawb a does neb yn drist.
  • Mae’r plismyn yn dwp, Dim ond blydi plismyn fyddai’n ddigon dwl i chwilio ochre mynydd am ddyn wedi boddi yn y môr, meddai Meredydd.
  • Cael dyrchafiad sydd ar feddwl y dyn teledu, efallai y câi fynd yn bennaeth rhaglenni.

Fedri di brofi’r themâu a ganlyn gyda dyfyniadau a chynnig tystiolaeth o’r nofel?

Thema cyfraith a threfn

Ar wahân i Gareth Hughes mae’r plismyn yn cael eu darlunio’n negyddol. Cafodd Meredydd ei gyhuddo ar gam a’i drin yn ffiaidd gan yr heddlu ac mae’r heddlu yn hunan bwysig pan fônt yn chwilio am gorff Richard Jones.

Thema gwrthdaro

Ceir gwrthdaro rhwng Cymry a Saeson, Meredydd a’r heddlu a phobl y pentref a Huw, Meredydd ac Einir a Richard Jones, Gladys a phawb, teulu Gwastad Hir, Now a Richard Jones.

Thema gwerth cymdeithas

Cymdeithas glòs, gefnogol sydd yn y nofel, ee Gwyndaf a’i wraig, criw’r Wylan Wen, Wil y garej, Gareth Hughes – y rhai sy’n helpu Meredydd i ddod dros y profiadau a gafodd.