Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr gan Alun JonesCynnwys

Mae'r nofel hon yn trafod themâu megis rhagrith a gwrthdaro. Mae Meredydd Parri wedi ei gael yn ddieuog o dreisio a Richard Jones ar drywydd y diemwntau wnaeth eu dwyn bum mlynedd yn ôl.

Part ofLlenyddiaeth GymraegNofelau

Cynnwys

Pennod 1

  • Cawn ein cyflwyno i Bethan a Huw Gwastad Hir sy’n creu helynt yn y llys ar ôl clywed bod Meredydd Parri yn ddieuog o dreisio Bethan. Mae Meredydd yn ymateb yn dawel i’r dyfarniad.
  • Cyflwynir pentref Hirfaen i ni – Gwesty Sant Aron a thafarn Yr Wylan Wen a’r cwsmeriaid. Cawn wybod bod mam a thad Meredydd wedi boddi ers rhyw ddeunaw mis.
  • Cyfarfod â Gladys Drofa Ganol sydd wedi cael sioc o glywed bod Meredydd yn ddieuog.

Pennod 2

  • Cawn ein cyflwyno i deulu Gwastad Hir sy’n ffraeo wrth y bwrdd.
  • Aiff Meredydd i siopa yn Hirfaen a wynebu pobl am y tro cyntaf ar ôl iddo gael ei ryddhau. Caiff ei fygwth gan Huw Gwastad Hir ond mae’n cael croeso mawr gan Wil Drofa Isaf yn y garej.
  • Gyda’r nos caiff Meredydd groeso yn Yr Wylan Wen ond ar y ffordd adref mae Huw yn ei ddyrnu.

Pennod 3

  • Cawn ein cyflwyno i ŵr gwael yn yr ysbyty ym Mangor – Harri Evans – sy’n dweud wrth Inspector Emrys Roberts ei fod ef a William Hughes wedi dwyn o siop emau Jenkins yn Wrecsam. Roedd wedi gweld William Hughes yn yr ysbyty nos Sadwrn dwytha.
  • Mae’r plismon sy’n cadw llygad ar y ward yn gweld William Hughes (Richard Jones) yno.

Pennod 4

  • Mae Meredydd yn galw yn Yr Erddig ar ôl diwrnod digalon ac unig ac yn cyfarfod ag Einir sy’n gweithio yno.
  • Gwelwn Morgan Ellis, perchennog Yr Erddig yn bwcio Richard Jones i mewn.
  • Mae Harri Evans yn marw.

Pennod 5

  • Ffonia Richard Jones yr ysbyty o giosg ac aiff i banig o glywed bod Harri Evans wedi marw. Mae’n gyrru i Hirfaen a chaiff sioc o weld stad o dai ar dir Tan Ceris lle claddodd y diemwntau. Yma gwelwn bod cysylltiad rhwng y bennod 'Claddu' a Richard Jones.
  • Gareth Hughes yn rhybuddio Meredydd nad ydy Huw Gwastad Hir wedi gorffen ag ef.

Pennod 6

  • Daw Meredydd wyneb yn wyneb â Bethan Gwastad Hir a’i mam ym Mhenerddig ac â at Einir am gysur.
  • Gwêl Gladys Meredydd yn cyrraedd adref gydag Einir a gwylltia.

Pennod 7

  • Aiff Richard Jones i Dan Ceris ac yna aiff â Now am beint i geisio’i gael i ateb cwestiynau am y stad. Caiff wybod mai Gladys Drofa Ganol sy’n byw yn yr hen gornel fach honno o’r cae rŵan. Daw Gareth Hughes yno a chaiff wybodaeth am Richard Jones gan Now.
  • Yn y gwesty mae Richard Jones yn cynllunio sut i gael cynllun o stad Maes Ceris.

Pennod 8

  • Wedi diwrnod ar y traeth dywed Meredydd bopeth am ddamwain ei rieni wrth Einir. Gwelant Richard Jones yn prowlan y tu allan i’r tŷ.
  • Mae gweld cysgod Richard Jones y tu allan yn dychryn Gladys.

Pennod 9

  • Caiff Gladys ei darganfod wedi marw.
  • Caiff Richard Jones gynlluniau’r stad o swyddfa’r pensaer.
  • Aiff Einir a Meredydd i Borthmadog i ymweld â’i rhieni ond mae hi’n gwrthod dyweddïo.

Pennod 10

  • Mae Huw yn dathlu ei fod am gael arian ar ôl Gladys.
  • Mae Gareth Hughes yn ei ddyrnu ac yn gofalu ei fod yn cael ei ddal yn yfed a gyrru.
  • Aiff Now Tan Ceris a Gareth Hughes i angladd Gladys.

Pennod 11

  • Wedi oriau o weithio mae Richard Hughes yn taro ar y garreg a’r polythen a roddodd yno bum mlynedd yn ôl.
  • Clyw sgwrs plismyn y tu allan. Mae’n dianc trwy’r ffenestr.
  • Dwalad, ci Now, yn cael gafael arno a’i gnoi. Mae’n lladd y ci, dianc a syrthio i’r môr.

Pennod 12

  • Y plismyn yn chwilio am gorff Richard Jones.
  • Â Meredydd ac Einir am dro ac mae Meredydd yn ffraeo gyda’r plismyn.
  • Â’r ddau i’r Wylan Wen.