Erledigaeth y Natsïaid ar yr Iddewon
Y grŵp a dargedwyd galetaf i’w herlid gan y Natsïaid oedd Iddewon yr Almaen. Gyda dyfodiad yr Ail Ryfel Byd daeth erchylltra’r lladd torfol a’r Ateb Terfynol, ond gwelwyd cynnydd graddol yn yr erledigaeth yn ystod 1933, nes cyrraedd trobwynt yn ystod Kristallnacht yn Nhachwedd 1938.
1933
- Natsïaid yn trefnu boicot o fusnesau Iddewig.
- Llosgi llyfrau gan awduron Iddewig yn gyhoeddus.
- Diswyddo Iddewon o swyddi gweision sifil, cyfreithwyr ac athrawon.
- Cyflwyno gwersi gwyddoniaeth hil, yn dysgu bod Iddewon yn is-ddynol.
1935
Cyfreithiau NurembergCyfreithiau gwrth-Semitaidd yn yr Almaen Natsïaidd. yn ffurfioli gwrth-Semitiaeth yn y wladwriaeth Natsïaidd fel a ganlyn:
- Dwyn dinasyddiaethCyfres o hawliau a chyfrifoldebau dinesig, gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd sy'n perthyn i'r unigolyn fel aelod o gymuned wleidyddol. Almaenig oddi ar Iddewon.
- Gwahardd priodi a pherthynas rywiol rhwng Iddewon ac Almaenwyr.
- Dwyn pob hawl sifil a gwleidyddol oddi ar Iddewon.
1938
- Ni allai Iddewon fod yn feddygon.
- Roedd rhaid i Iddewon ychwanegu’r enw Israel (dynion) neu Sara (menywod) at eu henw.
- Gwahardd plant Iddewig rhag mynd i’r ysgol.
- Kristallnacht - 9 Tachwedd. Trefnodd yr SS ymosodiadau ar gartrefi, busnesau a synagogau’r Iddewon i ddial am lofruddiaeth y llysgennad Almaenig yn Ffrainc gan Iddew.
1939
- Gwaharddwyd Iddewon rhag bod yn berchen ar fusnes, na hyd yn oed radio.
Erbyn dechrau’r Ail Ryfel Byd ym Medi 1939, doedd gan yr Iddewon ddim gwladwriaeth, roedd cyfyngiadau difrifol ar eu hopsiynau cyflogaeth yn yr Almaen ac roeddent yn ofni am eu diogelwch.