Erlid lleiafrifoedd
Roedd gan Hitler a’r Natsïaid syniadau pendant ynghylch hil. Credent fod rhai grwpiau’n israddol ac yn fygythiad i burdeb yr hil AriaiddRhywun o dras Ewropeaidd – nid Iddewig – yn aml â gwallt melyn a llygaid glas. Credai’r Natsïaid mai’r Ariaid oedd yr hil ddynol oruchaf.. Targedwyd sawl grŵp i’w herlid, gan gynnwys Slafiaid (pobl dwyrain Ewrop), SipsiAelod o gymuned deithiol, fel arfer â gwallt a chroen tywyll., pobl hoyw a phobl anabl – ond ni thargedwyd neb yn fwy na’r Iddewon.
Yn 1933, roedd grŵp bach cynyddol o bobl ddu yn byw yn yr Almaen, a chawson nhw eu herlid gan y Natsïaid. Fe gawson nhw eu hanffrwythloni trwy orfodaeth, gwnaed arbrofion meddygol arnynt, a chawson nhw carcharu, eu trin yn giaidd ac weithiau eu llofruddio. Ond doedd dim rhaglen systematig i’w difa fel yr oedd ar gyfer Iddewon a grwpiau eraill.
Credoau hiliol y Natsïaid

Roedd athroniaeth hiliol y Natsïaid yn dysgu mai Ariaid oedd yr hil oruchaf a bod rhai hiliau yn untermensch/is-ddynol. Credai llawer o wyddonwyr y Natsïaid ar y pryd mewn ewgenegDefnyddio bridio dan reolaeth neu ystumio genynnol i gynhyrchu nodweddion neu rinweddau a ddymunir., sef y syniad fod pobl ag anableddau neu broblemau cymdeithasol yn dirywiedigPobl anfoesol neu israddol. a bod angen dileu eu genynnau o’r gwaedlin dynol. Dilynodd y Natsïaid bolisïau ewgeneg yn frwd.
Polisi erlid
- Anffrwythloni - Er mwyn cadw’r hil Ariaidd yn bur, ataliwyd amryw o grwpiau rhag atgenhedlu. Câi pobl feddyliol a chorfforol anabl, gan gynnwys y byddar, eu hanffrwythloni, ynghyd â phobl ag afiechydon etifeddolWedi’i drosglwyddo gan rieni i’w hepil drwy’r genynnau.. Gelwid plant a anwyd i fenywod Almaenig a milwyr Ffrengig Affricanaidd yn y Rheindir ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ‘Fastardiaid y Rheindir’ a chawson nhw eu hanffrwythloni hefyd.
- Gwersylloedd crynhoi - Yn aml câi pobl gyfunrhywiol, puteiniaid, Tystion Jehofa, sipsiwn, alcoholigion, heddychwrRhywun sy’n llwyr wrthwynebu unrhyw fath o drais ac sy’n gwrthod cymryd rhan mewn unrhyw agwedd ar ryfel., cardotwyr, hwliganiaid a throseddwyr eu corlannu a’u hanfon i ffwrdd i wersylloedd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu farw 85 y cant o sipsiwn yr Almaen yn y gwersylloedd hynny.