Crefydd
Polisïau’r Natsïaid tuag at yr Eglwysi Catholig a Phrotestannaidd
Roedd tua 45 miliwn o Gristnogion ProtestaniaidCristnogion a dorrodd i ffwrdd oddi wrth Eglwys Gatholig Rhufain yn ystod y Diwygiad Protestannaidd. Maen nhw'n credu yn nysgeidiaeth y Beibl ond yn gwrthod awdurdod y Pab. a 22 miliwn o CatholigionCristnogion sy’n derbyn y Pab yn arweinydd crefyddol. yn yr Almaen yn 1933. I Hitler roedd Cristnogaeth yn fygythiad ac yn rhywbeth a allai ennyn gwrthwynebiad i Natsïaeth oherwydd ei phwyslais ar heddwch. Ceisiodd y Natsïaid reoli’r Eglwysi trwy bolisïau a bargeinio.
Rheoli’r Eglwysi
Sefydlwyd Eglwys y Reich dan arweinyddiaeth yr Esgob Natsïaidd, Ludwig Müller i uno’r gwahanol ganghennau o Brotestaniaeth. Galluogodd hyn y Natsïaid i ddefnyddio grŵp o’r enw ‘Cristnogion yr Almaen’ o fewn Eglwys y Reich i hyrwyddo syniadau Natsïaidd.
Yn 1933, cytunodd Hitler ar ConcordatCytundeb gyda'r Fatican. gyda’r Pab, gan ddweud na fyddai’n ymyrryd ym materion yr Eglwys Gatholig os byddai honno’n cadw allan o faterion gwleidyddol. Ond ni chadwodd Hitler ei ochr ef o’r fargen, gan i’r Natsïaid geisio sleifio i mewn i’r Eglwys a lledaenu eu propaganda.
Ymdrechion y Natsïaid i ffrwyno’r Eglwysi
Ceisiodd Eglwys y Reich wahardd defnyddio’r Hen Destament mewn gwasanaethau crefyddol gan farnu mai ‘llyfr Iddewig’ ydoedd. Roedd nifer o Brotestaniaid yn gwrthwynebu Eglwys y Reich, ac yn 1934, sefydlodd Martin Niemöller Eglwys Gyffes, ac ymosodd ar y drefn Natsïaidd yn gyhoeddus. Cafodd ei arestio a'i anfon i wersyll crynhoi yn 1937. Arestiwyd wyth cant o Weinidogion yr Eglwys Gyffes, grŵp Protestannaidd anghydffurfiol, a’u hanfon i wersylloedd crynhoi.
Ceisiodd y Natsïaid atal Catholigion rhag defnyddio’r groes yn yr eglwys, er mai aflwyddiannus oedd yr ymgais hon. Ffrwynwyd ysgolion a mudiadau ieuenctid Catholig, gan addysgu plant Almaenig yn ysgolion y wladwriaeth a dysgu cwricwlwm Natsïaidd iddynt, yn ogystal â disgwyl iddynt ymuno â gwahanol ganghennau mudiad Ieuenctid Hitler.
Cafodd papurau newydd Catholig eu gwahardd a daeth Esgob August von Galen o Munich yn un o'r lleisiau amlycaf yn erbyn polisïau'r Natsïaid. Yn 1937, beirniadodd Pab Pius XI y Natsïaid yn gyhoeddus, ac o ganlyniad, cafodd 400 o offeiriaid Catholig eu hanfon i wersyll crynhoi Dachau.
Effaith gweithredoedd y Natsïaid
Yn 1937, gorfodwyd Hitler i roi rheolaeth yr Eglwys yn ôl i’r hen arweinwyr Protestannaidd, yn gyfnewid am addewid y byddai’r Eglwys yn cadw allan o wleidyddiaeth.
Cynyddodd niferoedd mynychwyr eglwysi Catholig yn sylweddol dan y Natsïaid, yn enwedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd, sy’n dangos mai aflwyddiannus yn y diwedd oedd ymdrechion Hitler i leihau dylanwad crefydd yn yr Almaen.
Chwaraeodd clerigwyrPobl sy’n cynnal gwasanaethau crefyddol, yn enwedig yn yr eglwys Gristnogol. Protestannaidd a Chatholig ran fawr yn y gwrthwynebiad i Hitler a’r Natsïaid, a thalu pris uchel am hynny’n aml.