Adeiledd planhigionAmsugno mwynau

Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Amsugno mwynau

Dim ond mwynau hydawdd mae planhigion yn gallu eu hamsugno (rhai sy’n gallu hydoddi mewn dŵr). Maent yn amsugno mwynau wedi’u hydoddi mewn hydoddiant o’r pridd drwy eu . Fodd bynnag, mae crynodiad mwynau yn y pridd yn isel iawn.

Cludiant actif – Haen uwch yn unig

Dydy mwynau ddim yn gallu cael eu hamsugno drwy gyfrwng osmosis oherwydd dim ond symudiad dŵr yw hyn. Dydyn nhw ddim yn gallu cael eu hamsugno drwy gyfrwng , oherwydd mae crynodiad y mwynau yn isel iawn. Yn lle hynny, mae’r planhigyn yn defnyddio cludiant actif.

Mae gan y celloedd gwreiddflew brotinau cludo yn eu cellbilenni. Mae’r rhain yn casglu’r ïonau mwynol ac yn eu symud nhw ar draws y bilen i mewn i’r gell yn erbyn y .

Oherwydd bod cludiant actif yn symud ïonau yn erbyn graddfa crynodiad i fewn i’r celloedd gwreiddflew, bydd angen egni. Darperir yr egni ar ffurf ATP (adenosin triffosffad).

Diagram yn dangos sut mae osmosis yn achosi i ddŵr fynd i mewn i'r celloedd gwreiddflew, drwy gortecs y gwreiddyn ac i'r tiwbiau sylem
Figure caption,
Mae osmosis yn achosi i ddŵr basio i’r celloedd gwreiddflew, drwy gortecs y gwreiddyn ac i’r tiwbiau sylem