Adeiledd planhigionSypynnau fasgwlar

Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Sypynnau fasgwlar

Mae meinweoedd a i’w canfod mewn grwpiau o’r enw . Mae safle’r sypynnau hyn yn amrywio mewn gwahanol rannau o’r planhigyn. Mewn deilen, er enghraifft, mae’r ffloem fel arfer yn agosach i’r arwyneb isaf.

Gwreiddyn

Mae tiwbiau sylem yn wydn ac yn gryf, felly mae’r sypynnau fasgwlar yng nghanol y gwreiddyn i wrthsefyll grymoedd a allai dynnu’r planhigyn allan o’r tir.

Coesyn

Mae’n rhaid i’r coesyn wrthsefyll cywasgiad (gwasgu) a grymoedd plygu sy’n cael eu hachosi gan bwysau’r planhigyn a’r gwynt. Mae’r sypynnau fasgwlar wedi eu trefnu ger ymyl y coesyn, gyda’r ffloem ar y tu allan a’r sylem ar y tu mewn.

Trawstoriad drwy goesyn planhigyn yn dangos y Sypynnau fasgwlar. Sylem a Ffloem wedi'u labelu.
Figure caption,
Sypynnau fasgwlar yn y coesyn