Adeiledd planhigionDiffyg mwynau

Mae gan blanhigion addasiadau i’w galluogi nhw i gasglu defnyddiau crai ar gyfer ffotosynthesis, yna cludo’r defnyddiau crai drwy’r planhigyn. Gall gwahanol ffactorau effeithio ar gyfradd y symudiad.

Part ofBiolegCelloedd, systemau organau ac ecosystemau

Diffyg mwynau

Diffyg mwynau yw’r sefyllfa lle dydy planhigyn ddim yn gallu cael digon o fwyn penodol o’r pridd i dyfu’n iach.

Diagram o 2 blanhigyn tomato. Mae'r planhigyn tomato ar y chwith yn iach, mae'r un ar y dde yn tyfu mewn amodau lle mae diffyg ïonau mwynol.
Figure caption,
Mae’r planhigyn tomato ar y chwith yn iach, mae’r un ar y dde’n tyfu mewn amodau lle mae diffyg ïonau mwynol

Mae angen gwahanol fwynau am wahanol resymau, felly mae pob un yn achosi gwahanol symptomau diffyg mwynau. Mae’r tabl yn crynhoi rhai o’r symptomau hyn.

"Tabl 2 golofn a 3 rhes. Diffyg mwynau a'u symptomau: Nitrad - Twf gwael, dail melyn. Ffosffad - Twf gwreiddiau gwael, dail di-liw. Potasiwm - Twf ffrwythau a blodau yn wael, dail di-liw "