SefydliadauManteision ac anfanteision efelychu

Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.

Part ofTGChSefydliadau

Manteision ac anfanteision efelychu

Manteision

  • Gall osgoi perygl a cholli bywyd.
  • Mae’n bosibl amrywio’r amodau ac ymchwilio i’r canlyniadau.
  • Mae’n bosibl ymchwilio i sefyllfaoedd tyngedfennol heb risg.
  • Mae’n gost-effeithiol.
  • Mae’n bosibl cyflymu felly mae’n hawdd astudio ymddygiad dros gyfnod hir.
  • Mae’n bosibl arafu efelychiadau er mwyn astudio ymddygiad yn fanylach.

Anfanteision

  • Gall fod yn gostus i fesur sut mae un peth yn effeithio ar rywbeth arall, i gymryd y mesuriadau cychwynnol ac i greu’r model ei hun (er enghraifft twneli gwynt aerodynamig).
  • Er mwyn efelychu rhywbeth, mae angen dealltwriaeth drylwyr ac ymwybyddiaeth o’r holl ffactorau. Heb hyn, nid yw’n bosibl creu efelychiad.
Unigolyn yn dangos manteision amrywiol defnyddio efelychiadau, er enghraifft osgoi perygl.

More guides on this topic