SefydliadauEnghreifftiau eraill o efelychiadau

Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.

Part ofTGChSefydliadau

Enghreifftiau eraill o efelychiadau

  • Mae gorsafoedd pŵer niwclear yn defnyddio prosesau i wella allbwn drwy edrych ar dymheredd, gwasgedd a llif nwy yn y gwaith.
  • Mae’n bosibl arsylwi ar arbrofion gwyddonol (er enghraifft twf planhigion) mewn amodau amrywiol.
  • Mae’n bosibl astudio erydiad yr arfordir (effaith y môr ar y morlin) er mwyn rhagweld llifogydd posibl, fel bod modd gosod amddiffynfeydd yn y llefydd gorau.
  • Mae’n bosibl efelychu llif traffig mewn dinasoedd mawr er mwyn archwilio’r angen am ffyrdd newydd a/neu oleuadau traffig.
  • Mae’n bosibl archwilio’r effaith aerodynamig ar siâp ceir drwy efelychu llif aer dros geir o wahanol siapiau.

Rhithrealiti

Dyn yn chwarae gêm fideo holograffig tri dimensiwn
Image caption,
Dangosydd rhithrealiti sy’n cael ei wisgo ar y pen

Mae rhithrealiti (VR) yn efelychiad cyfrifiadurol sy’n caniatáu i’r defnyddiwr ryngweithio â’r system. Mae rhyngwynebau arbennig yn rhoi teimlad, sain a golwg y system rithwir i’r defnyddiwr. Mae’r defnyddiwr yn gwisgo dangosydd ar ei ben sy’n ei alluogi i weld y byd rhithwir.

More guides on this topic