Bancio ar-lein
Mae pob un o fanciau’r stryd fawr yn cynnig gwasanaeth bancio ar-lein, ac mae rhai banciau sydd ar-lein yn unig heb unrhyw ganghennau ar y stryd fawr.
Gwasanaethau
Gall cwsmer sydd â mynediad at wasanaeth bancio ar-lein:
- edrych faint o arian sydd ganddo yn y banc
- gweld/argraffu datganiadau banc cyfredol a blaenorol
- talu biliau ar-lein, hynny yw sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog
- creu cyfrifon newydd, ar wahân at ddibenion penodol, er enghraifft cynilion
- trosglwyddo arian rhwng ei gyfrifon ei hun ac i gyfrif rhywun arall
Manteision i gwsmeriaid
- Hwylus - bancio pan mae’n gyfleus iddyn nhw, 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn o unrhyw gyfrifiadur sydd â cysylltiad rhyngrwydCysylltiad â’r rhyngrwyd gan gyfrifiadur neu ddyfais sy’n gallu defnyddio’r rhyngrwyd..
- Cyfraddau llog uwch - mae arbedion y mae banciau’n eu gwneud drwy lai o gostau staff, llai o safleoedd a mwy o awtomeiddio yn golygu eu bod yn gallu cynnig cyfraddau llog uwch.
- Mwy o ymwybyddiaeth o’r farchnad - edrych ar bob banc i weld pa gyfraddau llog maen nhw’n eu cynnig ar-lein.
Pryderon cwsmeriaid
- Cau canghennau bach, lleol neu leihau oriau agor.
- Diogelwch bancio ar-lein, yn fwyaf penodol hacioCael mynediad i gyfrifiadur heb ganiatâd. a thwyll cardiau credyd.
- Lleihau nifer y staff.
Wrth i fancio fynd yn fwy a mwy dibynnol ar dechnoleg mae’r pryderon hyn yn debygol o gynyddu.