Cyfrifiaduro adwerthu
Mae cyfrifiaduro yn newid y ffordd rydyn ni’n siopa mewn llawer o ffyrdd:
- Mae system gyfrifiadurol ar gyfer rheoli stoc yn golygu bod siopau’n gallu rhagfynegi galw’n gywir. Mae stoc yn cael ei harchebu’n awtomataidd.
- Mae TG yn cefnogi twf siopau mawr ond mae pob busnes yn gallu cael mynediad at yr un dechnoleg, felly mae pob busnes yn cael yr un cyfle i dyfu.
- Mae cerdyn ffyddlondebCerdyn sy’n cael ei roi i gwsmeriaid gan siopau mawr, archfarchnadoedd yn aml. Mae pwyntiau’n cael eu hychwanegu i gyfrif y cwsmer bob tro y mae’n prynu rhywbeth ac mae’n bosibl defnyddio’r pwyntiau fel disgownt yn y dyfodol. yn cynnig disgownt i gwsmeriaid rheolaidd ac mae hyn yn fygythiad i siopau bach.
- Mae’r cardiau hyn yn galluogi’r siopau i adeiladu cronfa ddataStorfa ddata sydd wedi’i chynllunio mewn ffordd drefnus, i’w gwneud hi’n haws i ni chwilio am y wybodaeth sydd ei hangen. enfawr o ddewisiadau cwsmeriaid. Gall siopau ddefnyddio manylion personol cwsmeriaid mewn post-dafliadau uniongyrchol i farchnata nwyddau.
- Mae siopa ar y rhyngrwyd ac ar deledu digidolGwybodaeth sy’n cael ei storio fel gwerthoedd arwahanol. Fel arfer mae’n cael ei chynrychioli gan rifau. Mae hyn mewn gwrthgyferbyniad â data analog sy’n cael eu cynrychioli gan ddata parhaus, fel arfer mewn tonnau. yn golygu ein bod yn gallu siopa heb fynd o’n cartrefi.
Wrth gwrs, mae twf siopau mawr a siopa ar y rhyngrwyd wedi cael effaith ar siopau bach:
- mae mwy o siopau bach yn mynd allan o fusnes
- mae canol trefi lleol dan fygythiad gan fod siopau bach yn cau