SefydliadauSystemau arbenigol

Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.

Part ofTGChSefydliadau

Systemau arbenigol

Mae’n bosibl rhaglennu cyfrifiaduron â rheolau i ddefnyddio i wneud penderfyniadau syml.

Enghraifft fwy soffistigedig o hyn yw system arbenigol. Mewn system arbenigol mae cyfrifiaduron yn cael eu rhaglennu i dderbyn nifer fawr o eitemau o wybodaeth ac, ar sail rheolau sydd wedi’u gosod yn y , gwneud penderfyniadau, yna rhagor o benderfyniadau.

Yr enghreifftiau mwyaf adnabyddus o’r rhain yw awtobeilot mewn awyren a rhaglenni diagnosio sy’n cael eu defnyddio i helpu meddygon. Yn y naill achos a’r llall, mae’r systemau hyn yn dibynnu ar reolau sydd wedi’u rhaglennu gan berson o gig a gwaed, ac ni allant ymdrin â digwyddiadau annisgwyl. Dim ond fel ffordd o helpu pobl i wneud penderfyniadau y dylen nhw gael eu defnyddio. Rhaid i’r meddyg ei hun gadarnhau diagnosis a thriniaeth sy’n cael ei hawgrymu gan system arbenigol.

Llun wedi’i chwyddo o gaban peilot yn dangos y nodwedd awtobeilot.

More guides on this topic