SefydliadauTGCh mewn sefydliadau

Mae defnydd cynyddol o TGCh i’w weld mewn sefydliadau o bob math, ar gyfer adwerthu, masnach, bancio a systemau arbenigol.

Part ofTGChSefydliadau

TGCh mewn sefydliadau

Darllenydd codau bar

Mae codau bar yn cael eu cynrychioli gan farrau fertigol du ac yn cael eu darllen gan ddarllenydd codau bar. Mae codau bar wedi’u hargraffu ar bron bob peth rwyt ti’n ei brynu. Mae gan bob cynnyrch god unigryw. Pan mae’n cael ei ddarllen, mae gwybodaeth sydd wedi’i storio yng y siop yn cael ei hadalw, er enghraifft enw a phris y cynnyrch. Mae’r wybodaeth hon yn ymddangos ar dy dderbynneb yn nes ymlaen. Mae’r broses sganio hefyd yn helpu i reoli stoc, gan leihau’r stoc o un bob tro mae cynnyrch yn cael ei sganio/gwerthu.

Adnabod Nodau Inc Magnetig (MICR)

Mae nodau inc magnetig i’w gweld ar waelod sieciau. Mae banciau’n defnyddio MICR i ddarllen y rhifau sydd ar waelod sieciau, er mwyn cael data megis rhif cyfrif banc a chod didoli. Mae arbennig yn cael ei defnyddio. Mae’r ffont hon yn ei gwneud hi’n hawdd i’r peiriant wahaniaethu rhwng nodau. Mae’r inc wedi’i fagneteiddio. Mae hyn yn sicrhau nad yw crychiadau a marciau budr yn effeithio arno.

More guides on this topic