Ateb enghreifftiol arholiad
Wrth gymharu dwy gerdd cofia sôn am:
- beth sy’n debyg a/neu’n wahanol
- barn/rheswm i gefnogi safbwynt/dyfyniad
- iaith/patrymau brawddegol cymharu cerddi
Felly, beth am edrych ar y cwestiwn eto i ti gael ceisio mynd ati i’w ateb, cyn edrych ar enghraifft o ateb delfrydol.
Question
Darllena'r ddwy gerdd, Eifionydd a Dau Lygad ar Un Wlad yn ofalus.
Yn y cerddi, mae’r bardd yn sôn am ddatblygiadau diwydiannol.
Cymhara'r ddwy gerdd gan ddangos sut maen nhw’n debyg neu’n wahanol.
Wrth drafod y cerddi dylet gyfeirio at y canlynol:
- cynnwys a neges y cerddi
- sut mae’r beirdd yn cyfleu eu syniadau neu’n creu awyrgylch yn y cerddi (nodweddion arddull, mesurau ac ati)
- dy ymateb personol i’r cerddi
Wrth ateb, cofia ddyfynnu’n briodol a chyfeirio at enghreifftiau penodol i gefnogi dy sylwadau. [40]
Yn Eifionydd gan R Williams Parry mae’r bardd yn mynd am dro lawr y Lôn Goed
sy’n lle hardd, coediog O olwg hagrwch cynnydd
, ond yn Dau Lygad ar Un Wlad rydyn ni’n clywed cri dyn sy’n gweld ei dir ef yn cael ei gymryd gan bŵer un o Lywodraethwyr yr Unol Daleithiau i’w ddatblygu yn fflamau a thân
neu argae a phibellau dŵr
. Mae’r ddwy gerdd yn sôn am y ffaith bod dynoliaeth wedi, ac yn parhau i, anharddu’r dirwedd naturiol yn enw cynnydd diwydiannol. Y cynnydd
mae’r cerddi yn sôn amdano yw gwneud arian. Yn Dau Lygad ar Un Wlad mae’r elw yma’n cael ei restru fel erwau o wenith gwyn
, darnau aur
, dinas yn tyfu o hyd
ac yn cael ei gyferbynnu â delweddau hardd a naturiol fel afon fyw
, y ddôl
a clywed iaith
yn y nos. Mae’r ymdriniaeth o hyn yn Eifionydd ychydig yn wahanol, mae’n canolbwyntio ar y pethau hardd sydd dal i fodoli oddi wrth ...ymryson ynfyd, chwerw’r newyddfyd blin
, i ffwrdd o’r dyffryn diwydiannol
yn hytrach na’r pethau sydd eisoes wedi anharddu ardal Eifionydd.
Y prif debygrwydd rhwng y ddwy gerdd yw bod y ddwy yn trafod cynnydd ar draul natur, er enghraifft mae’r ddwy gerdd yn defnyddio’r gair cynnydd
, yn y pennill cyntaf yn Eifionydd ac yn y pennill olaf yn Dau Lygad ar Un Wlad. Maent hefyd yn darlunio harddwch bro eu mebyd. Mae bro rhwng môr a mynydd / Heb arni staen na chraith
yw disgrifiad cyntaf R Williams Parry o fro Eifionydd. Mae’n defnyddio trosiad effeithiol iawn i ddarlunio mai’r unig beth sydd wedi gadael ei farc ar yr ardal yw lle bu gwaith amaethyddol yn rhwygo’r gwanwyn pêr o’r pridd
. Er bod y ferf ‘rhwygo’ yn rhywbeth annifyr fel arfer, yn yr achos hwn mae’n creu ystyr cyferbyniol oherwydd ei fod yn rhan o ddiwylliant gwledig yr ardal. Rhestru a chyferbynnu sy’n darlunio harddwch yn Dau Lygad ar Un Wlad. Iddo ef mae’r tir wedi bod yn ardd erioed
, mae ef wedi teimlo’r coed
, mae’n ei gyfri’n dduw
. Fel yn Eifionydd mae’n teimlo’n un â’r ardal.
Ar y naill law mae’r gerdd Eifionydd yn creu darlun cadarnhaol o’r lle prydferth, tawel hwn sy’n arwain i nunlle ac ar y llaw arall mae Dau Lygad ar Un Wlad yn darlunio’r byd newydd hyll hwn sy’n cael ei greu gan ddieithriaid sy'n methu gwerthfawrogi’r tir hwn a’i werth. Mae’r ddau fardd yn cytuno bod cynnydd yn niweidio ardaloedd gwledig. Yn Eifionyddwyneb trist y gwaith
yw’r personoliad mae’n ei ddefnyddio i ddisgrifio’r datblygiadau sydd wedi digwydd, ac yn Dau Lygad ar Un Wlad mae’n dweud ei fod yn gweld y ddaear na ddaw yn ôl
ar y tir a fu unwaith mor annwyl iddo.
Mae modd cymharu’r neges yn Eifionydd â’r neges yn Dau Lygad ar Un Wlad oherwydd maent yn annog y darllenydd i edrych ar y byd yn wahanol ac i werthfawrogi tawelwch a phrydferthwch natur cyn iddo ddiflannu i beiriant diwydiant. Nid yw’r ffordd y mae’r beirdd yn trin eu neges yr un fath. Mae Dau Lygad ar Un Wlad yn drist iawn oherwydd ei bod yn rhestru’r holl bethau y mae’r llwyth brodorol hwn am, ac wedi, ei golli. Yn Eifionydd rydyn ni’n cael ymdeimlad o’r boddhad a’r hapusrwydd y mae’r bardd yn ei deimlo wrth rodio heddwch
y tawel gwmwd hwn
.
Yn fy marn i mae Dau Lygad ar Un Wlad yn cyfleu’r neges o effaith cynnydd yn well nag Eifionydd oherwydd mae’r disgrifiadau a’r cyferbyniadau yn adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa yn fwy byw nag yn Eifionydd. Wedi dweud hynny, mae’n well gen i Eifionydd oherwydd ei bod yn fy ngwneud i werthfawrogi natur yn fwy na’r gerdd arall. Mae ei neges yn cael mwy o effaith arnaf i. Rwy’n credu bod defnyddio disgrifiadau positif yn well er mwyn annog rhywun i feddwl mewn ffordd wahanol.
Beth sy’n gwneud yr ateb yn dda?
- Defnyddio iaith cymharu, fel
Mae’r ddwy gerdd yn sôn am
,Y prif debygrwydd rhwng y ddwy gerdd yw
aAr y naill law mae’r gerdd ‘...ac ar y llaw arall mae...
. - Defnyddio termau arddull gan drafod yr effaith yn llawn, ee
trosiad effeithiol
,y ferf...
arhestru a chyferbynnu sy’n darlunio...
- Mynegi barn yn y clo gan ddefnyddio ymadroddion fel
Yn fy marn i...
,mae’n well gen i
arwy’n credu
.
More guides on this topic
- Etifeddiaeth gan Gerallt Lloyd Owen
- Ofn gan Hywel Griffiths
- Y Coed gan Gwenallt
- Walkers' Wood gan Myrddin ap Dafydd
- Tai Unnos gan Iwan Llwyd
- Rhaid peidio dawnsio... gan Emyr Lewis
- Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor gan Rhys Iorwerth
- Gweld y Gorwel gan Aneirin Karadog
- Eifionydd gan R Williams Parry
- Y Sbectol Hud gan Mererid Hopwood
- Nodweddion arddull
- Y mesurau caeth
- Y mesurau rhydd