Cymharu dwy gerddDadansoddi Dau Lygad ar Un Wlad

Yn yr arholiad bydd yn rhaid i ti gymharu cerdd rwyt ti wedi ei hastudio ag un nad wyt wedi ei hastudio. Bwriad y canllaw hwn yw dy helpu i fynd ati i ddadansoddi a thrafod y ddwy gerdd ochr yn ochr.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Dadansoddi Dau Lygad ar Un Wlad

Neges y gerdd (themâu)

Fe weli o’r eglurhad ar ôl teitl y gerdd ei bod yn seiliedig ar araith Seattle pan roedd y Isaac Stevens eisiau prynu tiroedd Indiaid America yn 1854. Mae’r gerdd yn amlygu sut mae dau berson yn gweld yr un peth mewn dwy ffordd gwbl wahanol. Y Pennaeth Seattle sy’n siarad yn y gerdd, yn Isaac Stevens ac yn rhestru’r hyn sy’n wahanol yn y ffordd y mae ef a’i bobl yn edrych ar y tiroedd dan sylw, a’r ffordd y mae’r llywodraethwyr barus yn edrych arnynt. Mae un ohonynt, y Pennaeth Seattle, yn gweld gwlad hardd naturiol tra mae’r llall, y Llywodraethwr Stevens, yn gweld cyfle i wneud cynnydd ac arian etifeddiaeth naturiol Indiaid America.

Question

Edrycha ar y crynodeb uchod. Pa themâu sy’n codi yn y gerdd?