Cymharu dwy gerddDadansoddi ffurf y gerdd

Yn yr arholiad bydd yn rhaid i ti gymharu cerdd rwyt ti wedi ei hastudio ag un nad wyt wedi ei hastudio. Bwriad y canllaw hwn yw dy helpu i fynd ati i ddadansoddi a thrafod y ddwy gerdd ochr yn ochr.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Dadansoddi ffurf y gerdd

Nodweddion arddull a mesur

Mae patrwm i benillion y bardd, patrwm o ailadrodd sy’n ymgais i gyffwrdd â’r galon a chael ei gynulleidfa i gydymdeimlo â sefyllfa Indiaid America. Cerdd rydd ar fydr ac odl yw hi oherwydd mae patrwm pendant iddi ac odl bob yn ail linell. O safbwynt y Pennaeth Seattle y mae’r gerdd. Mae’n cyferbynnu'r hyn mae ef yn ei weld â’r hyn y mae’r Llywodraethwr yn ei weld. Dyna yw ystyr y teitl Dau Lygad ar Un Wlad - mae dau berson yn edrych ar yr un peth ac yn gweld dau beth gwahanol iawn.

Pa nodweddion arddull effeithiol sy’n cyfleu’r syniad a chreu awyrgylch?

Trosiad - Rwyt ti’n gweld y tir yn wyllt; / i mi, mae’n ardd erioed.

Mae Indiaid America yn gweld y darn tir gwyllt hwn fel gardd, fel rhywbeth sy’n annwyl iddynt. Meddylia am atgofion sydd gen ti o chwarae yn yr ardd neu yn y cae chwarae cyfagos. Mae’r darn gwyllt o dir hwn yn golygu'r un peth i’r Pennaeth Seattle ac mae’r Llywodraethwr eisiau ei losgi i wneud arian.

Personoli – Lawr ffroen dy wn

Drwy roi nodwedd person i’r gwn, mae’r bardd yn atgyfnerthu’r ffaith bod gynnau a phethau materol (cig, croen a ffwr) bellach yn rhan o’r byd ‘modern’ ac yn bwysicach na’r gwir gyfoeth, sef y byd natur. Mae’r Indiaid yn gwybod gwerth y pethau naturiol, gan nodi eu bod yn ystyried y pob creadur sy’n cael ei hela fel brawd.

Gwrthgyferbyniad - Rwyt ti’n gweld erwau o wenith gwyn / a minnau’n gweld y paith.

Mae’r cysyniad o’r hyn mae’r ddau lygad yn ei weld yn cael ei amlygu’n fwy eto yn y dyfyniad hwn. Mae’r Americanwr yn gweld elw mewn caeau o wenith gwyn i’w gwerthu, tra bod y brodor yn gweld y .

Trosiad - Rwyt ti’n clywed udo yn y nos; / minnau’n clywed iaith.

Mae synau i’w clywed ar y paith yn y nos, synau y mae’r Indiaid yn eu galw’n iaith ond mae’r Americanwyr yn eu galw’n udo. Drwy ddefnyddio’r trosiad i ddisgrifio’r synau hyn fel udo mae’r bardd yn amlygu’r gwahaniaeth rhwng y a'r estroniaid sy’n bygwth eu . Hefyd, mae’n tynnu sylw at anwybodaeth y bobl sydd eisiau cymryd y tir oddi ar Indiaid America.

Trosiad - afon fyw, cyfri’r lle yn ddarnau aur, ei gyfri’n dduw’

Mae’r pedwerydd pennill yn cynnig adlais o sefyllfa Cymru. Cafodd cymoedd Tryweryn a Chlywedog eu boddi i greu cronfeydd dŵr, eto ar gyfer elw, heb ystyried tynged y brodorion. Mae'r Pennaeth Seattle yn gweld afon fyrlymus, gan awgrymu ei bod hi’n fyw, ond argae a phibellau dŵr a’r darnau aur y mae’r Llywodraethwr Stevens yn eu gweld, sef ffordd o wneud arian. Nid yw’r Llywodraethwr yn gweld nac yn ystyried fod y tir hwn yn lle i Bennaeth Seattle a’i bobl sy’n ei gyfri’n [y tir] dduw.

Ymadrodd effeithiol - Rwyt ti’n gweld cynnydd; minnau’n gweld / y ddaear na ddaw’n ôl.

Ar ddechrau’r pumed pennill mae Myrddin ap Dafydd yn crynhoi pryderon Pennaeth Seattle mewn dau gwpled. Mae’r ddinas yn tyfu o hyd gan anharddu’r tir i dyfu strydoedd a ffatrïoedd. Mae’r geiriau y ddaear na ddaw’n ôl yn derfynol. Nid yw dadwneud y cynnydd hwn yn bosibl. Mae tir Indiaid America wedi ei golli. Ar ben hynny, maent wedi colli’r pethau sydd wedi cael eu rhestru drwy gydol y gerdd - iaith, diwylliant, treftadaeth, ffordd unigryw o fyw yn un â’r pridd.