Cymharu dwy gerddGeirfa ddefnyddiol

Yn yr arholiad bydd yn rhaid i ti gymharu cerdd rwyt ti wedi ei hastudio ag un nad wyt wedi ei hastudio. Bwriad y canllaw hwn yw dy helpu i fynd ati i ddadansoddi a thrafod y ddwy gerdd ochr yn ochr.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Geirfa ddefnyddiol

Mae cael geirfa dda yn mynd i dy helpu di i drafod a chymharu’r ddwy gerdd. Yn yr adran hon mae rhestr o eiriau ac ymadroddion defnyddiol. Efallai y bydd rhai ohonynt yn ddieithr i ti, ond bydd eu dysgu nhw’n hwyluso ateb y cwestiwn i ti ac yn arbed amser prin yn yr arholiad.

Cofia, yn yr enghreifftiau hyn mae enwau’r cerddi enghreifftiol yn cael eu defnyddio. Bydd angen i ti enwi’r cerddi a fydd yn y papur arholiad pan ddaw hi’n amser arholiadau.

  • Yn Eifionydd rydyn ni’n gweld... ond yn Dau Lygad ar Un Wlad mae...
  • Mae’r ddwy gerdd yn sôn am...
  • Y prif debygrwydd rhwng y ddwy gerdd yw...
  • Ar y naill law mae’r gerdd Eifionydd yn... ond ar y llaw arall mae Dau Lygad ar Un Wlad yn...
  • Mae’r ddau fardd yn cytuno bod...
  • Agwedd sy’n debyg yn y ddwy gerdd yw...
  • Yn wahanol iEifionydd mae Dau Lygad ar Un Wlad yn...
  • Mae modd cymharu’r neges yn Eifionyddâ’r neges yn Dau Lygad ar Un Wlad oherwydd...
  • Mae’r un thema i’w gweld yn y gerdd... â’r thema yn y gerdd...
  • Un o’r gwahaniaethau rhwng y ddwy gerdd yw...
  • Yn fy marn i mae... yn well na... oherwydd...
  • Nid yw... cystal â... oherwydd...