Y Coed gan GwenalltMesur

Yn y canllaw hwn byddi di’n dysgu am ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Mae’n gerdd sy’n condemnio dynoliaeth a’i awydd i ryfela. Mae’n edrych ar themâu, nodweddion arddull a neges.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Mesur

Cerdd rydd yw hon mewn mydr ac odl ar fesur y rhigwm.

Cyfres o gwpledi yw’r gerdd hon gyda 15 sillaf ymhob llinell. Mae rhythm a churiad cyson i’r llinellau.

Serch hynny, mae un llinell ar ei phen ei hun:

A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan.

Ei bwriad yw tynnu ein sylw at hyn trwy gyfeirio at yr eiliad erchyll a ddaeth â’r Ail Ryfel Byd i ben.

Mae’n eironig ei fod wedi dewis mesur ysgafn â naws lafar i drafod pwnc mor ddwys.