Y Coed gan GwenalltCefndir a chyd-destun

Yn y canllaw hwn byddi di’n dysgu am ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Mae’n gerdd sy’n condemnio dynoliaeth a’i awydd i ryfela. Mae’n edrych ar themâu, nodweddion arddull a neges.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Cefndir a chyd-destun

Fe aeth Gwenallt ar daith i Israel yn y flwyddyn 1961 ac ysbrydolodd y daith hon lawer o’i gerddi. Fe’u cyhoeddwyd yn y gyfrol Y Coed yn dilyn ei farwolaeth yn 1968. Mae’n debyg mai’r gerdd hon oedd yr olaf iddo ei chyfansoddi.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd chwe miliwn o Iddewon eu lladd yn yr Holocost. Y Natsïaid a’u rhaglen fwriadol o hil-laddiad oedd yn gyfrifol am yr Holocost. Mae’r gerdd hon yn cyfeirio at yr hanes ac yn trafod rhyfeloedd eraill hefyd. Yn 1951, plannwyd chwe miliwn o goed yng i gofio am y rhai a gafodd eu lladd yn yr Holocost.

Roedd Gwenallt yn Gristion ac mae hynny’n cael ei amlygu tua diwedd y gerdd yn ei gyfeiriad at Iesu Grist, Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair croes, / Ac ar y ganol Yr Unig Un a fu’n byw'r Efengyl yn ei oes.