Y Coed gan GwenalltTrafod y gerdd

Yn y canllaw hwn byddi di’n dysgu am ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Mae’n gerdd sy’n condemnio dynoliaeth a’i awydd i ryfela. Mae’n edrych ar themâu, nodweddion arddull a neges.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Trafod y gerdd

Mae’r gerdd hon yn rhybuddio am erchyllterau rhyfel. Rydyn ni’n cael clywed llawer iawn o rifau sy’n tynnu ein sylw at faint y golled. Mae’r swm chwe miliwn yn cael ei ailadrodd yn y gerdd er mwyn serio pa mor anferth oedd y ar feddwl y darllenydd.

Y rhigwm cyntaf

Yn y rhigwm cyntaf, mae berfau amhersonol fel plannwyd a llosgwyd yn cael eu defnyddio. Maen nhw'n cyfrannu at naws ffurfiol y gerdd ac yn awgrymu pa mor amhersonol oedd y weithred o blannu’r coed.

Gyda’r geiriau heb fynwent na bedd nac wrn mae Gwenallt yn rhestru'r hyn na chafodd yr Iddewon. Fel arfer mae mynwent ac wrn yn bethau sy’n dangos parch at y meirw ond o’u rhestru, mae’n pwysleisio diffyg parch at yr Iddewon a gollodd eu bywydau.

Chwithig gweled y cangau fel cofgolofnau byw. Yn y gyffelybiaeth hon mae cyferbyniad rhwng gwrthrych marw a statig fel cofgolofn a gwrthrychau byw fel cangau coed. Yr eironi yma yw bod y coed sy’n yn fyw ond mae’r bobl yn farw.

Yn y gerdd hon, mae defnydd helaeth o’r . Mae’r pethau negyddol yn cael eu pwysleisio ac mae ymdeimlad gormesol yn y defnydd cyson o ‘na’ a ‘nid’. Maen nhw'n arfau i bwysleisio ar ddynoliaeth yn y gerdd.

Yn y pumed cwpled, Nid yw’r dwylo a’u plannodd yn ddieuog, na’u cydwybod yn lân, mae Gwenallt yn honni nad yw’r bobl a wnaeth y weithred hon o goffau yn ddieuog. Mae’n eu cyhuddo o losgi pentrefi’r Arabiaid er mwyn eu gyrru oddi yno a chymryd eu tiroedd.

Condemnio'r ddynol ryw

Nesaf, mae e’n troi ei olygon atom ni yn y gorllewin. I gondemnio'r ugeinfed ganrif mae’n defnyddio’r ansoddairbarbaraidd. Mewn cerdd sy’n weddol foel o ran ansoddeiriau, mae’r sŵn cras a geir yn yr ansoddair hwn yn hoelio ein sylw ac yn creu arswyd.

Tua diwedd y gerdd, mae Gwenallt yn ein hatgoffa am ddaioni Cristnogaeth Yr Unig Un a fu’n byw’r Efengyl yn ei oes. Mae’n dweud mai Iesu Grist yw’r unig un a fu’n dda a chyfiawn erioed.

Cawn ein sobri yng nghwpled olaf y gerdd oherwydd mae’n dweud y byddwn ni’n cael ein beirniadu gan y genhedlaeth nesaf am weithredoedd afiach yr oes hon.