Y Coed gan GwenalltThemâu

Yn y canllaw hwn byddi di’n dysgu am ‘Y Coed’ gan Gwenallt. Mae’n gerdd sy’n condemnio dynoliaeth a’i awydd i ryfela. Mae’n edrych ar themâu, nodweddion arddull a neges.

Part ofLlenyddiaeth GymraegBarddoniaeth

Themâu

Mae un thema sy’n rhedeg trwy nifer o gerddi Gwenallt, sef pechod y ddynoliaeth. Mae awydd dyn i ryfela yn thema hollbwysig yn y gerdd hon hefyd gan fod Gwenallt yn awgrymu bod dynoliaeth yn greulon ac yn methu dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol.

Mae heddwch a Christnogaeth hefyd yn themâu oherwydd bod y bardd yn honni mai ond trwy ddilyn Crist y mae modd datrys y byd a sicrhau dyfodol diogel a i’r cenedlaethau nesaf.