Defnyddio’r gofodLlwyfan wedi ei rannu

Mae siâp a natur gwahanol lwyfannau a gofodau perfformio yn effeithio ar sut mae dramâu yn cael eu perfformio a'u llwyfannu. Meddylia'n ofalus am brofiad y gynulleidfa a'r hyn mae’n ei weld.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Llwyfan wedi ei rannu

Ar gyfer rhai dramâu bydd angen i ti rannu’r ardal actio yn fwy nag un gofod, ee yn swyddfa a llawr y ffatri. Mae modd i hyn gael ei greu’n realistig neu fel arall. Os byddi di’n perfformio gydag ychydig iawn o lwyfannu, mae’n bwysig dy fod yn cadw rhith y ddwy ardal. Gwna hyn drwy osod unrhyw ddrysau dychmygol yn yr union le cywir a gwneud yn siŵr fod unrhyw symudiadau meim megis defnyddio allweddi yn cael eu hailadrodd yn union yr un ffordd gan bob perfformiwr. Hyd yn oed gyda llwyfannu realistig bydd angen i ti fod yn ofalus gydag elfennau megis mynedfeydd i bob ardal er mwyn cynnal y rhith.

Enghraifft o lwyfan wedi ei rannu mewn perfformiad o Metamorphosis, Lyric Hammersmith
Image caption,
Enghraifft o lwyfan wedi ei rannu mewn perfformiad o Metamorphosis, Lyric Hammersmith LLUN: Eddi

Oddi ar y llwyfan

Yn amlwg gall cymeriadau aros ger y llwyfan yn yr esgyll (ochrau’r llwyfan) sydd wedi eu marcio fel arfer â fflatiau neu lenni. Ond mae’r ardal oddi ar y llwyfan yn gallu chwarae rhan yn y ddrama hefyd. Gall cymeriadau siarad pan fyddan nhw oddi ar y llwyfan ac mae’n bosib gwneud mynediad rhywun yn fwy arwyddocaol drwy ddefnyddio ystumiau a llinellau o ddeialog sy’n rhagweld mynediad y cymeriad.

Ymarfer mewn gofod neu ar gyfer gofod

Mae’n well gan bawb ymarfer a pherfformio yn yr un gofod. Anaml y bydd hyn yn digwydd, nes daw’n amser yr ymarfer gwisgoedd. Os wyt ti’n defnyddio gofod arall, gwna’n siŵr dy fod yn ei fesur yn ofalus er mwyn i ti wybod faint o le fydd gen ti i symud. Mae hi’n amlwg bod angen gwneud hyn wrth baratoi brwydr neu ddarn egnïol o Theatr Gorfforol. Cofia hefyd y bydd angen i actor sy’n chwarae golygfa emosiynol wybod faint o gamau sydd eu hangen arno i groesi’r llwyfan. Dylai’r actorion sy’n gwylio’r hyn sy’n digwydd mewn golygfa dorf wybod faint o ofod sydd ganddyn nhw i’w lenwi ar y llwyfan.

Gallet ti ymarfer yr un olygfa mewn nifer o osodiadau llwyfan gwahanol er mwyn mesur effaith pob un o bersbectif y gynulleidfa.