Mae siâp a natur gwahanol lwyfannau a gofodau perfformio yn effeithio ar sut mae dramâu yn cael eu perfformio a'u llwyfannu. Meddylia'n ofalus am brofiad y gynulleidfa a'r hyn mae’n ei weld.
Os oes actor arall yn sefyll yn agosach at gefn y llwyfan na ti, bydd yn tynnu sylw oherwydd bydd rhaid i ti edrych i ffwrdd o'r gynulleidfa er mwyn cysylltu â'r cymeriad. Paid â gadael i hyn ddigwydd yn ddamweiniol. Os oes rhywun yng nghanol cefn y llwyfan gyda phawb yn edrych arno, rhaid bod hynny'n fwriadol, ee brenin yn cael ei goroni.
Croesi
Os byddi di'n cerdded ar draws y gofod i safle newydd rwyt ti'n croesi'r llwyfan.
Clirio
Pan fyddi di'n sefyll, gwna’n siŵr nad wyt ti'n sefyll o flaen rhywun, gan ei guddio rhag y gynulleidfa, yn enwedig os ydy e'n gymeriad pwysig.