Defnyddio’r gofodGofodau anffurfiol

Mae siâp a natur gwahanol lwyfannau a gofodau perfformio yn effeithio ar sut mae dramâu yn cael eu perfformio a'u llwyfannu. Meddylia'n ofalus am brofiad y gynulleidfa a'r hyn mae’n ei weld.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Gofodau anffurfiol

Theatr Stiwdio

Mae stiwdio yn ofod perfformio llai o faint, mwy agos-atoch. Mewn ysgol neu goleg, gallai fod yn ystafell ddosbarth sydd wedi ei haddasu drwy osod rig goleuo syml a llenni. Mae’n bosib gosod fflatiau i sefyll fydd yn caniatáu i actorion fynd i mewn ac allan a bydd hyn yn golygu bod modd defnyddio’r gofod yn effeithiol. Os nad ydy’r stiwdio’n rhy fach, mae defnyddio lefelau’n debygol o fod yn effeithiol a bydd yn galluogi’r gynulleidfa i weld mwy o’r hyn sy’n digwydd.

Diagram o theatr stiwdio

Theatr Promenâd

Theatr Promenâd ydy pan fydd y gynulleidfa’n symud o le i le yn ystod y perfformiad. Mae hon yn ddyfais boblogaidd sy’n cael ei defnyddio’n aml gan ymarferwyr modern. Enghraifft adnabyddus ydy cynhyrchiad y Theatr Genedlaethol, Y Bont, a gynhaliwyd mewn nifer o leoliadau ar draws tref Aberystwyth yn 2013.

Theatr Awyr Agored a Theatr Stryd

Yn nodweddiadol mae Theatr Awyr Agored a Theatr Stryd yn fwy anffurfiol. Mae modd cael set yn y cyd-destun hwn ond hefyd gallai’r actorion ddewis defnyddio’r gofod agored i ryngweithio â’r gynulleidfa. Mae perfformiadau awyr agored yn arbennig o boblogaidd mewn parciau a gerddi cyhoeddus, tiroedd cestyll ayyb.

Diagram o theatr awyr agored a theatr stryd

Cofia mai enghraifft gynnar o theatr awyr agored oedd yr hen Roegaidd. Mae ei dylanwad i’w weld o hyd mewn theatrau modern megis Canolfan y Mileniwm, Caerdydd. Mae gofod crwn agored yr amffitheatr sy’n estyn allan i ganol y gynulleidfa a’i seddi ar rengau yn ofod hynod o effeithiol ar gyfer cynyrchiadau heddiw hefyd.

Meddylia am gynhyrchiad rwyt ti wedi ei weld yn ddiweddar. Wyt ti’n gallu adnabod y math o lwyfannu a ddefnyddiwyd? Oes yna gynyrchiadau a allai weithio mewn dull arall o lwyfannu, ac os felly pam? Meddylia sut y byddai newid ffurf y llwyfannu wedi newid profiad y gynulleidfa o’r cynhyrchiad.