Beth mae’r gynulleidfa yn ei weld
Mae’r llun isod yn seiliedig ar lwyfan prosceniwm ond mae’n berthnasol i unrhyw fath o lwyfan oherwydd fe fydd darlun yn cael ei gyflwyno ar y llwyfan bob amser. Sylwa mai ochr chwith a de yr actor ac nid y gynulleidfa sy’n cael eu defnyddio. Mae actor yn sefyll ar blatfform neu ardal uwch yn enghraifft o ddefnyddio lefelau. Gallwn ni ddefnyddio lefelau i ddangos gwaseidd-dra neu awdurdod wrth wneud gwaith byrfyfyr, a gallwn ni ddefnyddio ardal sydd wedi ei chodi’n uwch na gweddill y llwyfan i roi awdurdod i’r cymeriad sy’n sefyll arni.
Ddylai actorion ddim wynebu ei gilydd yn uniongyrchol pan fyddan nhw'n siarad â'i gilydd ar y llwyfan. Mae gwneud hyn yn cau'r gynulleidfa o'r sgwrs gan nad ydy'r actorion yn ei wynebu. Y ffordd o rwystro hyn rhag digwydd ydy i'r actorion droi at ei gilydd a pharhau i fod yn agored i'r gynulleidfa. Mae’r syniad o barhau i fod yn agored i’r gynulleidfa yn elfen bwysig o flocio da gan gyfarwyddwr ac yn allweddol wrth ddefnyddio unrhyw fath o lwyfan.
Gwneud llun da ar y llwyfan
Does dim ots os wyt ti’n gweithio gyda thorf neu gyda dim ond un perfformiwr, mae hi bob amser yn bwysig meddwl am y ‘lluniau’ sy’n cael eu creu. Os oes torf o bobl yn gwrando ar ddadl mae’n bosib y bydd angen iddyn nhw edrych fel pe baen nhw’n canolbwyntio ar y ddadl. Ond fe ddylen nhw wasgaru ar draws y gofod actio a sefyll ar ongl sy’n caniatáu i’r gynulleidfa weld eu hwynebau a’u hymatebion. Mae hyn yn adleisio’r cyngor rwyt ti wedi ei gael neu ei ddarllen am greu tableauFfrâm fferru neu ddelwedd lonydd ydy tableau. Lluosog tableau ydy tableaux. neu delwedd llonyddTableau, ffrâm fferru unigol. Mae'n rhaid i'r holl berfformwyr ddal eu hystum yn hollol llonydd a thawel er mwyn nodi pwysigrwydd y foment..
Ond nid dim ond pan fyddi di’n sefyll yn llonydd mae hyn yn bwysig. Rhaid i dy symudiadau fod yn hyderus i argyhoeddi’r gynulleidfa. Cofia bod angen actor hyderus i gyfleu ystum ofnus. Bydd actor nerfus yn gwneud i’r gynulleidfa deimlo’n anghyfforddus. Rhaid i’r gweithredoedd a’r ymatebion fod wedi eu llunio’n gyflawn er mwyn i’r gynulleidfa ddeall a gwerthfawrogi holl lefelau’r perfformiad.