Cyfuno syniadau wrth i ti ysgrifennu
Wrth ddechrau siarad am fanylion technegol perfformiad, paid â dim ond rhestru'r pethau roedd y perfformwyr yn eu gwneud. Dydy hi ddim yn ddigon i ddweud beth roedd actor yn ei wneud heb ddweud pam roedd yn ei wneud.
Er enghraifft, byddi di wedi gweld actor yn perfformio yn y ddrama Mwnci ar Dân. Mae'n dweud y llinell: O’dd e’n gwisgo bra pinc dros ‘i iwnifform. Bra ‘i wejen e.
Felly paid â dim ond ysgrifennu: 'Defnyddiodd acen ddeheuol gref'. Yn hytrach, gallet ti ddweud:
Defnyddiodd acen ddeheuol gref, oedd yn help i'r gynulleidfa ddeall pwysigrwydd y lleoliad i'r plot ar unwaith. Roedd hyn hefyd yn darparu gwybodaeth am gefndir y cymeriad.
Byddi di’n debygol iawn o fod yn cyfeirio at symudiadau corfforol actor mewn sylw am berfformiad lleisiol. Er enghraifft pan fydd yr actor yn dweud y llinell hon: Tair ar hugain! Na’r cwbwl o’n i… Bois ifancach na fi ‘na fyd! Croeso i uffern blantos.
Gallet ti ddweud:
Mae llais yr actor yn uchel ac yn ymosodol sy'n cyfleu ei chwerwedd a'i ddicter. Mae hefyd yn defnyddio ei ddwrn i bwysleisio ei eiriau. Mae ei lais yn meddalu ychydig wrth iddo ddisgrifio'r bois ifancach na fi
ac yn ddistaw ond yn llym wrth iddo ddweud y llinell olaf gyda saib effeithiol cyn iddo ddweud y gair uffern
.
Gallet ti gyfeirio at fynegiant wyneb yr actor hefyd:
Mae wyneb yr actor yn agored ac yn llawn bywyd ac mae'n gwenu'n llydan wrth ddweud y geiriau:
O’n i gartre. Ar leave pan gafodd Megan ei geni. Cyn y rhyfel. On top of the world. Dim teimlad tebyg iddo fe.
Gwna nodyn o oslef yr actor os byddi di’n meddwl ei fod yn bwysig i'r perfformiad:
Mae'r mynegiant yn ysgafn, gan awgrymu cyffro am yr hyn mae'n ei ddweud. Mae ei oslef yn codi rhywfaint hefyd, sy'n atgyfnerthu hyn. Mae'r geiriau “top” a tebyg
yn cael eu pwysleisio i amlygu ei hapusrwydd.