Disgrifio llaisCyfleu ystyr ac iaith

Mae'r llais yn arf pwerus mewn drama. Wrth ddisgrifio gwaith llais, ystyria elfennau megis traw, cyflymder a thonyddiaeth. Dylai cymeriadau ddefnyddio cywair iaith sy'n addas iddyn nhw bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Cyfleu ystyr ac iaith

"Helo, sut wyt ti? Fe glywais i dy fod di'n sâl ond rwy'n gweld dy fod di'n well nawr. Rwy'n falch. Pryd fyddi di'n ôl yn y gwaith?"

Dyweda'r llinellau hyn ddwywaith. Y tro cyntaf, pwysleisia'r geiriau bras mewn ffordd bryderus a chydymdeimladol. Pan fyddi di’n eu dweud nhw am yr eildro, dyweda’r geiriau bras mewn ffordd sy’n sarcastig gan amau a ydy'r gwrandäwr wir wedi bod yn sâl. Mae llawer o ffyrdd o ddweud araith o'r hyd hwn ond dylai'r ymarfer amlygu'r gwahaniaethau y gallet ti eu gwneud.

Nawr ysgrifenna ddisgrifiad o sut y gwnest ti ddefnyddio sgiliau llafar i fynegi ystyron gwahanol yn yr ymarfer hwn.

Goslef

Rho gynnig ar ddweud y geiriau ‘yn wir’ gan ddefnyddio goslef i fynegi:

  • anniddigrwydd neu anghymeradwyaeth
  • syndod
  • cyffro