Disgrifio llaisElfennau lleisiol i'w cofio

Mae'r llais yn arf pwerus mewn drama. Wrth ddisgrifio gwaith llais, ystyria elfennau megis traw, cyflymder a thonyddiaeth. Dylai cymeriadau ddefnyddio cywair iaith sy'n addas iddyn nhw bob tro.

Part ofDramaYsgrifennu am ddrama a theatr

Elfennau lleisiol i'w cofio

Mae llawer o actorion yn dechrau eu dehongliad o gymeriad drwy ddod o hyd i lais addas. Mae nifer o elfennau lleisiol y dylet ti eu hystyried:

  • traw – siarad mewn llais uchel, isel neu naturiol
  • cyflymder – pa mor gyflym mae rhywun yn siarad, ee cyflymder ymateb mewn dadl
  • saib – saib ydy toriad byr mewn llinell neu weithred. Gallai saib dramatig ar ennyd hanfodol hawlio sylw
  • tôn – tôn y llais ydy lliwio’r llais i olygu ystyr neu agwedd. Mae dy dôn yn awgrymu dy hwyliau a dy fwriadau i'r gwrandäwr, ee hapus, trist
  • uchder – efallai dy fod yn gwneud sylw ynglŷn â'r gallu i'w glywed, ond mae'n fwy tebygol y byddi di'n trafod effaith llais uchel, pwerus neu lais tawel, nerfus neu drist
  • acen – efallai y byddi di'n sôn am sut mae rhywun wedi llwyddo i feistroli acen sy'n argyhoeddi neu sut mae acen benodol wedi cyfoethogi'r cymeriadu
  • pwyslais – dyma'r pwyslais ar eiriau unigol sy'n gwneud iddyn nhw fod yn amlwg. Mae pwyslais penodol ar gyfer creu effaith yn arwyddocaol a gall newid ystyr brawddeg yn ogystal â'r teimlad y tu ôl iddo
  • goslef – y llais yn codi ac yn disgyn. Byddai goslef y llais yn codi ar ddiwedd brawddeg wrth ofyn cwestiwn er enghraifft. Mae goslef hefyd yn ein helpu i ddweud beth rydyn ni'n ei feddwl

Yn y clip sain hwn mae’r actores Ceri Tudno yn perfformio agoriad y ddrama Dan y Wenallt, sef cyfieithiad T James Jones o ddrama radio enwog Dylan Thomas, Under Milk Wood. Wyt ti’n hoffi’r perfformiad? Noda’r rhesymau pam mae’r defnydd o lais yn effeithiol neu’n anffeithiol yn dy farn di.

Ceri Tudno - Dan Y Wenallt