Iaith lafar
Mae amrywiaeth enfawr o iaith lafar y gallet ti ei defnyddio mewn drama. Mae'r geiriau y byddi di’n eu dewis yn gorfod bod yn iawn i'r cymeriad, y lleoliad a'r sefyllfa:
- Cyweiriau iaith - cofia newid y ffordd y byddi di’n siarad gyda phobl wahanol. Fydden ni ddim yn dweud "Haia, ti'n iawn cyw?" wrth farnwr mewn bywyd go iawn, felly os byddi di’n perfformio barnwr mewn drama, cadwa'r cywair yn ffurfiol a phaid â holi dy dyst drwy ddweud "Reit te boi, be ddigwyddodd nesa te?" Dylai cywair ein hiaith gyd-fynd â'r rôl.
- Barddoniaeth - defnyddia hyn mewn drama arddulliedigYmdrech i ychwanegu at olygfa drwy ddefnyddio dulliau annaturiol., neu mewn genreSteil neu gategori o gerddoriaeth, celf neu lenyddiaeth. megis pantomeim.
- Iaith Shakespearaidd - gall hyn fod yn ddefnyddiol os byddi di am adlewyrchu cyfnod Shakespeare neu ddwyn drama gan Shakespeare i gof.
- Slang/tafodiaith - defnyddia hwn os byddi di am bortreadu bywyd cyffredin bob dydd. Mae gwahanol ardaloedd yn defnyddio gwahanol eiriau megis ‘fferins’ yn y gogledd a 'losin' yn y de. Cofia beidio â defnyddio bratiaith ar yr adeg anghywir. Byddai dweud 'OK' yn lle 'Iawn' mewn drama o oes Fictoria yn swnio'n rhyfedd iawn.