Atgyfnerthu grymNoson y Cyllyll Hirion

Ym mis Ionawr 1933, doedd dim disgwyl i Hitler oroesi’n hir fel Canghellor wrth iddo arwain llywodraeth glymblaid gyda dim ond dau o Natsïaid eraill yn y cabinet. Serch hynny, dim ond 18 mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ddatgan ei hun yn unben a Führer yr Almaen. Sut gwnaeth y Natsïaid atgyfnerthu eu grym rhwng 1933 a 1934?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Noson y Cyllyll Hirion

30 Mehefin 1934

Roedd llawer o aelodau’r SA, gan gynnwys yr arweinydd Ernst Röhm, yn mynnu y dylai’r blaid Natsïaidd gyflawni ei hagenda sosialaidd a bod yr SA yn cymryd rheolaeth dros y fyddin. Allai Hitler ddim fforddio pechu dynion busnes na’r fyddin, felly aeth yr SS (gwarchodwyr personol Hitler) ati i lofruddio rhyw 400 aelod o’r SA, a Röhm yn eu plith, ynghyd â nifer o wrthwynebwyr eraill Hitler fel y cyn-Ganghellor, von Schleicher.

Effaith hyn oedd dileu pob gwrthwynebiad i Hitler o fewn y Blaid Natsïaidd a rhoi grym i’r SS ciaidd. Dangosodd i weddill y byd hefyd gymaint o deyrn oedd Hitler. Dileodd hyn unrhyw wrthwynebiad mewnol i Hitler yn y Blaid Natsïaidd.

Hitler yn dod yn Führer

19 Awst 1934

Portread o Adolf Hitler.

Wedi i Hindenburg farw, cyhoeddodd Hitler ei hun yn arlywydd, canghellor a phennaeth y fyddin. Roedd rhaid i aelodau’r lluoedd arfog dyngu llw personol o deyrngarwch, nid i’r Almaen, ond i Hitler.

Bellach, Hitler yn ffurfiol oedd rheolwr absoliwt yr Almaen. Diddymwyd unrhyw ffynonellau gwrthwynebiad i Hitler o fewn y fyddin.