Atgyfnerthu grymEtholiad 1933 a’r Ddeddf Alluogi

Ym mis Ionawr 1933, doedd dim disgwyl i Hitler oroesi’n hir fel Canghellor wrth iddo arwain llywodraeth glymblaid gyda dim ond dau o Natsïaid eraill yn y cabinet. Serch hynny, dim ond 18 mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ddatgan ei hun yn unben a Führer yr Almaen. Sut gwnaeth y Natsïaid atgyfnerthu eu grym rhwng 1933 a 1934?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Etholiad 1933 a’r Ddeddf Alluogi

Twf pleidiau gwleidyddol erbyn Mai 1924.

Ar 5 Mawrth 1933, enillodd y Blaid Natsïaidd 44 y cant o’r bleidlais, gan roi 288 o seddi iddyn nhw yn y Reichstag. Ffurfiodd Hitler glymblaid gyda’r Blaid Genedlaethol (8 y cant). Enillodd y Blaid Gomiwnyddol 81 o seddi.

Y Ddeddf Alluogi

23 Mawrth 1933

A’r dirprwyon comiwnyddol wedi’u gwahardd a’r SA yn brawychu’r dirprwyon eraill i gyd, pleidleisiodd y Reichstag gyda'r mwyafrif gofynnol o ddau draean dros roi’r hawl i Hitler i wneud deddfau heb gymeradwyaeth y Reichstag am bedair blynedd.

Gellid dadlau mai hwn oedd y digwyddiad mwyaf allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Rhoddodd rym absoliwt i Hitler i lunio deddfau, a’i alluogi i ddinistrio pob gwrthwynebiad i’w deyrnasiad. Diddymwyd y Reichstag fel ffynhonnell gwrthwynebiad.

Undebau llafur

Ar 2 Mai 1933, diddymwyd undebau llafur ac arestiwyd eu harweinwyr. Wrth ddiddymu’r undebau roedd Hitler yn dinistrio grŵp a gallai fod wedi’i wrthwynebu. Hefyd, rhoddodd hyn y cyfle i Hitler sefydlu Ffrynt Llafur yr Almaen (Deutsche Arbeitsfront – DAF), gan roi rheolaeth iddo dros weithwyr yr Almaen.

Pleidiau gwleidyddol

Erbyn 14 Gorffennaf 1933, roedd Hitler wedi gwahardd pob plaid wleidyddol, fel mai’r blaid Natsïaidd oedd yr unig blaid a gâi fodoli. Trodd hyn yr Almaen i fod yn wladwriaeth un blaid a diddymu democratiaeth yn y wlad. Ar ôl hyn, doedd dim modd i Almaenwyr gael gwared o Hitler mewn etholiad.