Atgyfnerthu grymTân y Reichstag

Ym mis Ionawr 1933, doedd dim disgwyl i Hitler oroesi’n hir fel Canghellor wrth iddo arwain llywodraeth glymblaid gyda dim ond dau o Natsïaid eraill yn y cabinet. Serch hynny, dim ond 18 mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ddatgan ei hun yn unben a Führer yr Almaen. Sut gwnaeth y Natsïaid atgyfnerthu eu grym rhwng 1933 a 1934?

Part ofHanesYr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939

Tân y Reichstag

27 Chwefror 1933

Cafodd y comiwnydd o’r Iseldiroedd, Marinus van der Lubbe, ei arestio a'i gyhuddo am roi adeilad y Reichstag ar dân. Ddyddiau wedi hynny yn yr etholiad pleidleisiodd 44 y cant o’r boblogaeth dros y Natsïaid, ac enillodd 288 o seddi yn y Reichstag – eto heb gael mwyafrif clir. Bu rhaid i Hitler ymuno â’r cenedlaetholwyr i ffurfio mwyafrif.

Galluogodd hyn iddo garcharu llawer o arweinwyr comiwnyddol, a’u rhwystro rhag ymgyrchu yn ystod yr etholiad. Er na chafodd y Natsïaid y mwyafrif clir yr oedd Hitler wedi gobeithio’i gael yn y Reichstag, fe enillon nhw ddigon o seddi – wedi i Hitler arestio’r holl ddirprwyon comiwnyddol a brawychu’r pleidiau eraill trwy’r SA – i basio’r Ddeddf Alluogi.