Gwaith byrfyfyrIs-destunau cudd

Dysgu sut i greu a datblygu cymeriadau, a chreu cynnwys gan ddefnyddio amrywiol dechnegau wrth drafod gwaith byrfyfyr ar gyfer TGAU Drama.

Part ofDramaGwaith sgript

Is-destunau cudd

Is-destun ydy’r hyn sy’n digwydd o dan yr wyneb. Mae ychwanegu is-destun yn rhoi lefel arall i’r actor ei chwarae mewn golygfa ac mae’n creu cynnwys. Rhaid i is-destun pob cymeriad gael ei gadw’n gyfrinach rhag y lleill. Dyma rai esiamplau o is-destunau cudd:

  • rwyt ti ar berwyl ysbïo i’r llywodraeth ac yn awyddus i gasglu gymaint o wybodaeth â phosib
  • rwyt ti’n benderfynol o ladd dy hun
  • rwyt ti newydd ddianc o’r carchar
  • rwyt ti’n wirioneddol ofni unrhyw beth gwydr
  • rwyt ti mewn cariad gydag un o’r cymeriadau eraill yn yr olygfa

Os wyt ti’n dewis lleoliad i’r gwaith byrfyfyr ac am greu comedi, mae’n syniad da dewis is-destunau sy’n cyd-fynd â hyn. Er enghraifft, efallai fod gan driniwr gwallt ffobia am sisyrnau neu efallai fod doctor yn wirioneddol ofni dal haint neu salwch.

Mae’r is-destun yn y clip Saesneg hwn o olygfa o’r ddrama True Love gan y BBC a chyfres a oedd yn waith cyfan gwbl fyrfyfyr, yn awgrymu’n gynnil fod y cymeriadau wedi cael eu denu at ei gilydd. Mae’r sgwrs arwynebol yn trafod sut mae’r wraig yn gweld eisiau ei merch, ond mae’r ystyr dyfnach, sef yr atyniad cynyddol rhyngddyn nhw, hefyd yn cael ei gyfleu i’r gynulleidfa.