Syniadau ar gyfer creu a datblygu cymeriadau
Os oes gen ti gymeriad eisoes, mae’n werth arbrofi gyda’r syniadau canlynol er mwyn ehangu dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r ffordd y byddai’n ymddwyn mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Trosglwyddo rôl
Arbrofa i weld sut mae cymeriadau yn ymateb mewn lleoliadau gwahanol. Cymer dy gymeriad a’i symud o’i amgylchedd arferol a gwneud gwaith byrfyfyr yn rhywle hollol wahanol. Gallet ti ddefnyddio os hudolKonstantin StanislavskiActor a chyfarwyddwr dylanwadol o Rwsia (1863-1938) a oedd yn credu y dylai perfformiadau theatrig fod mor realistig â phosib. a gofyn ‘Beth os ....?' er mwyn ymchwilio i’r posibiliadau di-ben-draw y cymeriad a’r cynllun a chreu byd hollol ddychmygol. Dyma rai sefyllfaoedd posib:
- ar fws
- aelod o reithgor mewn llys
- mewn cyfweliad teledu
- y dyfodol
- yn sownd mewn lifft
- plentyn mewn meithrinfa
Mae modd i ti arbrofi gyda newid lleoliad neu wrth newid statws cymeriadau a rhoi swydd ddibwys neu un hynod bwysig iddyn nhw ei gwneud. Galli di fynd yn ôl neu ymlaen mewn amser a dychmygu sut roedden nhw’n ymddwyn fel plentyn neu fel person hŷn. Beth petaet ti’n taflu tri chymeriad hollol wahanol, megis hen wraig, clown a pheilot at ei gilydd mewn senarioAmgylchiadau neilltuol sy'n gysylltiedig â lle, amser a chymeriad/au arbennig. ddiddorol?
Nawr, lle fyddet ti’n eu rhoi nhw?
Beth ydy cymhelliad y cymeriadau neu beth maen nhw ei eisiau? Efallai fod yr hen wraig eisiau achub y byd rhag ymosodiad gan greaduriaid o’r gofod…
Sut fyddai dy gymeriad yn ymddwyn petai’n:
- ennill y loteri?
- cyfarfod â’r frenhines?
- cael gwybod mai chwe mis yn unig sydd ganddo/ganddi i fyw?
- dod yn Brif Weinidog?