Defnyddio cyfyngiadau
Cyfyngiad ydy amod mae’n rhaid i ti ei ddefnyddio yn yr olygfa, er mwyn i ti gadw at set o reolau wrth wneud gwaith byrfyfyr. Dyma rai syniadau ar gyfer gweithio gyda chyfyngiadau wrth wneud gwaith byrfyfyr.
Gofod
Defnyddia’r cyfyngiadau gofodol canlynol wrth lwyfannu golygfa neu wneud gwaith byrfyfyr ar olygfa i weld beth fydd yn digwydd:
- Gofod bychan iawn, ee lifft. Rhaid i gymeriadau ymddwyn yn arferol ond o fewn lleoliad bychan iawn.
- Gofod eang, ee cadwyn o fynyddoedd uchel.
Ystyria sut y mae newid agosrwyddY pellter rhwng cymeriadau, gwrthrychau neu set. Gall agosrwydd arddangos agweddau ar gymeriad a pherthnasau ar y llwyfan. yn effeithio ar iaith y corff, tôn ac uchder y llais a’r rhyngweithio rhwng cymeriadau. Efallai fod yna rhywbeth sy’n gweithio’n dda ac y gallet ei gynnwys yn dy ddarn dyfeisiedig.
Cyfyngiadau llais/iaith
Mae’r ymarferiadau hyn yn werthfawr er mwyn gwneud i ti feddwl mwy am iaith a deialog. Weithiau mae cyfyngiadau yn gorfodi’r actor i ystyried ffyrdd newydd a gwell o bortreadu rôl benodol.
Drama’r Tri Gair
Mae hwn yn ymarfer ble mae’r actorion yn gwneud gwaith byrfyfyr ond dim ond tri gair y gallan nhw eu dweud ar y tro. Mae’n dda iawn ar gyfer archwilio hanfod golygfa ac mae’n gorfodi actorion i gydweithio a helpu ei gilydd, er enghraifft:
- A: A ydy’n wir?
- B: Beth yn wir?
- A: Dy fod ti…
- B: Mod i’n beth?
- A: Allai ddim dweud…
- B: Allan ag e
- A: Wedi cael babi
- B: Bachgen ydw i!
- A: Wnaeth e frifo?
Deialog yn nhrefn yr wyddor
Y tro yma mae’r actorion yn cael defnyddio gymaint o eiriau ag y maen nhw ei eisiau ond mae’n rhaid i linellau’r ddeialog ddechrau gyda llythrennau olynol yr wyddor.
- A fedri di ddweud wrtha i os oes yna fysus i’r Bala o fan ‘ma?
- Bala, pam wyt ti eisiau mynd fan ‘na?
- Cadw hwn yn dawel ond dwi’n ceisio dianc, mae rhywun ar fy ôl i…
- Choelia i ddim, ti’n tynnu coes.
- Dwi ddim – dwi’n hollol o ddifri!
- Ddylet ti fynd at yr heddlu…
- Esgob, na! Arna i mae’r bai!
- F’enaid i, beth wyt ti wedi ei wneud?
- Fforjio papurau deg punt…
Llinellau gorfodol
Mae pob actor yn cael darn o bapur yn cynnwys llinell neu ddwy ar hap a rhaid iddyn nhw eu defnyddio rhywle o fewn yr olygfa fyrfyfyr mewn cyd-destun sy’n gwneud synnwyr. Mae hyn yn gorfodi’r actorion i lywio’r cynnwys tuag at sgwrs lle bydd y llinell yn ffitio. Wrth gwrs, mae gan bob actor linell wahanol i’w chynnwys, felly gall fod yn ddoniol iawn:
- Dyma’r foment y bûm yn aros amdani gydol fy mywyd
- Rwy’n credu mod i’n gweld iâr
- Dduw mawr, ry’n ni’n gyd yn mynd i farw!
Gall y llinellau fod mor ddifrifol neu ddwl ag y byddi di’n dymuno.