Defnyddio gwaith byrfyfyr cyswllt
Gwaith byrfyfyr cyswllt ydy deialogau corfforol digymell sy'n amrywio o lonyddwch i gysylltiadau egnïol. Mae gwaith byrfyfyr cyswllt yn ffurf ddatblygedig o fyrfyfyrio, fel arfer yn ddeuawd rhwng dau ddawnsiwr profiadol. Mae ein diddordeb ni yn y man cychwyn - y pwynt cyswllt. Y gwaith byrfyfyr ydy'r symudiad sy'n datblygu o hynny. Hyd yn oed os nad wyt ti wedi dy hyfforddi'n ddawnsiwr mae modd i ti arbrofi gyda rhannu symudiadau. Meddylia sut mae effeithiolrwydd pwniad ar y llwyfan yn dibynnu ar ymateb y sawl sy'n ei dderbyn. Mae'r symudiadau'n gysylltiedig â’i gilydd ac yn gweithio gyda'i gilydd.
Ymarfer
Mae’n bosib ymarfer byrfyfyr cyswllt syml mewn parau drwy ymchwilio i gyffyrddiad syml, ee gan ddechrau gyda chledrau dwylo a defnyddio dwy ddynameg sylfaenol sef 'gwthio' a 'thynnu'. Galli di wneud ymarfer syml arall drwy gynnal pwynt cyswllt corfforol yn barhaus gyda phartner. Yma gallet ti ymchwilio i dair rheol sylfaenol:
- amsugno ergyd gan y partner
- gwrthsefyll neu anwybyddu’r ergyd
- ymateb i’r ergyd
Yn y clip Saesneg hwn o , mae'r actor Adrian Lester yn dangos sut i fwrw ergyd realistig ond diogel mewn drama