Theatr GorfforolTechnegau Theatr Gorfforol

Mae Theatr Gorfforol yn dangos nad oes rhaid defnyddio geiriau i fynegi syniadau. Mae'n defnyddio technegau megis symudiadau, meim a dawns, a gall ymchwilio i faterion cymdeithasol a diwylliannol.

Part ofDramaArddulliau, genres ac ymarferwyr

Technegau Theatr Gorfforol

Darlun yn seiliedig ar 'The Vitruvian Man' gan Da Vinci, yn dangos rhannau o'r corff wedi eu labelu gyda termau amrywiol

Mae cryfder craidd yn bwysig iawn ac yn dy alluogi i wneud i dy gorff weithio i greu effeithiau Theatr Gorfforol.

Os mai'r corff ydy offeryn cerdd yr actor, sut galli di gynhyrchu cerddoriaeth Theatr Gorfforol? Pa dechnegau ddylet ti eu hystyried?

  • Meim – Symudiad arddulliedig ydy hyn fel arfer ond gall fod yn gymharol realistig.
  • Ystum – Gall ystum fod yn rhywbeth bach ond gall gael effaith emosiynol neu gall fod yn symudiad penodol sy'n diffinio cymeriad.
  • Statws - Gellir dangos hyn gyda lefelau, pellter neu gryfder cyswllt, neu gyfuniad o'r rhain i gyd gyda gwaith llais.
  • Agosrwydd – Mae pa mor agos y byddi di at dy gyd-berfformwyr neu ba mor bell y byddi di oddi wrthyn nhw’n gallu creu effaith bwerus iawn.
  • Safiad – Mae hyn yn gysylltiedig â chryfder oherwydd gall y corff ddangos pendantrwydd ac awdurdod neu wendid drwy'r safiad, gan gynnwys osgo.
  • Gerwinder a thynerwch - Defnyddir y rhain yma fel termau ymbarél i nodi symudiadau’n dod at ei gilydd mewn gwaith corfforol i fynegi emosiynau'r darn.
  • Symudiad - Mae angen ymarfer pob symudiad yn union.
  • Peidio â symud – Os ydy'r cymeriadau eraill yn symud, gall aros yn llonydd gael effaith bwerus. Gall cyferbyniad llonyddwch fod yn rhan effeithiol o’r ddrama.
  • Gwaith mwgwd - Mae effaith mwgwd yn weladwy a heb nodweddion yr wyneb i ddangos y gweithredu, mae symudiad yn dod yn offeryn perfformio mwy canolog byth.
  • Gwaith dawns – Paid ag ofni cynnwys dawns yn dy waith; does dim rhaid i ti fod yn ddawnsiwr profiadol. Mae lle i symudiadau dawns syml neu gomig mewn Theatr Gorfforol.
  • Motiff - Defnydd dro ar ôl tro o batrwm symud ydy hyn ag iddo ystyr ac mae’n ein hatgoffa o thema ganolog y gwaith.