Mae Theatr Gorfforol yn dangos nad oes rhaid defnyddio geiriau i fynegi syniadau. Mae'n defnyddio technegau megis symudiadau, meim a dawns, a gall ymchwilio i faterion cymdeithasol a diwylliannol.
Beth ydy dy gymhelliad di fel perfformiwr? Mae’n bwysig bod gen ti reswm dros dy ddewisiadau sy’n cyfiawnhau dy waith. Yn y clip hwn gan gwmni Tinopolis mae Eddie Ladd yn sôn am sut mae hi’n defnyddio ei gwaith i ddadansoddi Cymreictod.