Gwaith dyfeisiedig
Os byddi di’n gweithio ar ddarn dyfeisiedig a bod angen defnyddio Theatr Gorfforol, gwna'n siŵr bod yr hyn y byddi di’n ei wneud yn ychwanegu at effeithiolrwydd y perfformiad fel nad ydy'r gwaith corfforol yn edrych fel ychwanegiad ar hap yn unig. Rhaid iddo gyd-fynd ag arddull y cynhyrchiad. Ysbrydolwyd cynhyrchiad hynod lwyddiannus y National Theatre o One Man, Two Guvnors, gan y ddrama commedia dell’arteMath o gomedi fyrfyfyr yn seiliedig ar gymeriadau stoc a oedd yn boblogaidd yn yr Eidal rhwng y 16eg a'r 18fed ganrif. Roedd y dramâu yn dilyn llond dwrn o blotiau sylfaenol ac roedd actorion yn tynnu ar ddigwyddiadau cyfredol wrth addasu eu dialog a'r hyn a oedd yn digwydd. o'r 17eg ganrif, Il servitore di due padroni (Gwas Dau Feistr yn Gymraeg). Roedd yn defnyddio arddulliau comedi corfforol y Commedia megis defnydd y ffurf o lazzi (gair Eidaleg am jôc) corfforol ac ychwanegodd hyn lawer at y cynhyrchiad.
Yng Nghymru mae cwmnïau megis Arad Goch yn gwneud llawer o waith gan ddefnyddio’r dechneg hon. Os byddi di’n defnyddio commedia dell’arteMath o gomedi fyrfyfyr yn seiliedig ar gymeriadau stoc a oedd yn boblogaidd yn yr Eidal rhwng y 16eg a'r 18fed ganrif. Roedd y dramâu yn dilyn llond dwrn o blotiau sylfaenol ac roedd actorion yn tynnu ar ddigwyddiadau cyfredol wrth addasu eu dialog a'r hyn a oedd yn digwydd. fel ysbrydoliaeth, mae'r clip hwn o waith y National Theatre yn dangos y siapiau corfforol mae rhai cymeriadau yn eu defnyddio.
Mae'n debygol y bydd y gwaith y byddi di'n ei wneud yn fwy cyfyngedig. Efallai y bydd y trais neu'r hud yn cael ei gyfleu'n ofalus drwy symudiad mewn drama Shakespeare. Neu os byddi di’n perfformio comedi, gallet ti ddefnyddio symudiad fel nodwedd cymeriad, gan gymryd dy ysbrydoliaeth o'r commedia dell’arte. Gallet ti ddefnyddio dy gast i greu ac adeiladu llawer o ymdeimlad ac awyrgylch dy ddarn yn ogystal â’r set.