Mae Theatr Gorfforol yn dangos nad oes rhaid defnyddio geiriau i fynegi syniadau. Mae'n defnyddio technegau megis symudiadau, meim a dawns, a gall ymchwilio i faterion cymdeithasol a diwylliannol.
Mae’r clip hwn gan gwmni Tinopolis yn dangos y berfformwraig Eddie Ladd, sy’n arbenigo mewn Theatr Gorfforol, yn dehongli stori Llywelyn ein Llyw Olaf. Mae’n dangos posibiliadau diddiwedd y cyfrwng.